– Senedd Cymru am 2:16 pm ar 9 Mai 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud ei datganiad.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i amseriad y busnes yr wythnos hon. Rwyf wedi lleihau hyd y ddadl heddiw ar Gyfnod 3 o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i 120 munud. Yn yr un modd, mae’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol yfory wedi eu cyfyngu i 30 munud. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Arweinydd y tŷ, rwy'n siwr y byddwch yn ymuno â mi wrth longyfarch y cynghorwyr lleol niferus sydd wedi eu hethol ar hyd a lled Cymru, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hethol ym Mro Morgannwg, ac yn enwedig y Ceidwadwyr, sef y grŵp mwyaf yn y Cyngor penodol hwnnw bellach, ac sydd, gobeithio, yn edrych ymlaen at bum mlynedd cyffrous ym Mro Morgannwg. Un o'r materion y—[Torri ar draws.] Un o'r materion—. Rwy'n clywed yr Aelod dros Blaenau Gwent yn mwmian yn y fan yna. Nid wyf yn credu y cafodd noson arbennig o dda nos Iau. Un o'r materion mawr, fel y byddwch yn ymwybodol ohono fel yr Aelod etholaethol dros Fro Morgannwg, oedd llosgydd y Barri. Crybwyllwyd hyn, dro ar ôl tro, yn yr etholiadau lleol ar garreg y drws yn y Barri, ac roedd pryder eang, yn benodol, ynghylch yr angen am asesiad o’r effaith amgylcheddol, na chafodd ei gynnal ar y pryd—ac a ganiatawyd gan y cyngor—ac ynghylch gallu Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gynnal asesiad llawn o’r goblygiadau iechyd. O ystyried bod gan y Barri, fel tref, nifer uwch o achosion o asthma yn y gymuned yno na’r cyfartaledd cenedlaethol, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi datganiad ar ran Llywodraeth Cymru, gan fy mod i’n credu eich bod yn cyflawni dyletswyddau'r Gweinidog dros gynllunio ar hyn o bryd, o ran pa gamau yn union y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn a godir dro ar ôl tro gan etholwyr ym Mro Morgannwg ynghylch diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol ac, yn benodol, asesiad gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro o’r nifer uchel o achosion o asthma a'r effaith bosibl y gallai llosgydd ei chael yn yr ardal. Ac, yn anad dim, hoffwn glywed pa ran y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chwarae bellach wrth asesu trwyddedu’r safle, lle mae llawer o bobl yn amau gallu a chadernid y system honno i ateb ac ymdrin â phryderon lleol mewn gwirionedd? Gofynnaf hefyd am ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu â'r cyngor newydd yn y Fro i gyflwyno ffordd osgoi Dinas Powys. Er tegwch i’r Gweinidog dros yr economi, mae wedi nodi mewn gohebiaeth flaenorol i mi y llynedd ei fod yn barod i weithio gyda'r cyngor i ddarparu adnoddau i ymdrin â'r problemau traffig difrifol sy'n bodoli yn ardal Dinas Powys, lle cafwyd gwared ar bedwar cynghorydd Plaid Cymru ac ethol pedwar cynghorydd Ceidwadol yn eu lle a fydd yn gweithio ddydd a nos i wneud yn siŵr bod y materion hyn yn cael sylw.
Rwy'n credu mai’r cwestiwn cyntaf yr ydych yn ei ofyn, Andrew R.T. Davies, ynghylch llosgydd y Barri—. Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd—ac, yn wir, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad —i adrodd fy mod wedi cadeirio cyfarfod neithiwr, cyfarfod lle’r oedd cynrychiolaeth o Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau, ac uwch swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyhoeddais ddatganiad heddiw, y cytunwyd arno bawb a oedd yno neithiwr. Roedd hwn yn gyfarfod adeiladol iawn er mwyn gwneud yn siŵr—daeth y Prif Weinidog i'r Barri, fel y gwyddoch, a chael trafodaeth gadarn iawn ag aelodau o'r cyhoedd yn ei gyfarfod Carwyn Connect. Ac o ganlyniad i hyn, roeddem yn gallu symud ymlaen a chael estyniad ar gyfnod ymgynghori y drwydded amgylcheddol, ac, wrth gwrs, cytunwyd ar yr estyniad hwnnw gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yr hyn sy'n bwysig iawn ac a drafodwyd neithiwr —a’r pwyntiau a gyflwynwyd gerbron Cyfoeth Naturiol Cymru—yw y byddant, a’u bod wedi cytuno i hynny, ac, yn wir, mai eu dyletswydd yw, ystyried yn llawn effaith y cynigion ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd. Wrth gwrs, bydd cyfleoedd eraill i ymgynghori ar hynny, wrth iddynt, yn ddiweddarach yn yr wythnos, gyhoeddi amserlen 5—gwelsom ddrafft ohoni neithiwr—sy’n holi rhagor o gwestiynau i'r cwmni, Biomas 2, ynghylch y pryderon, nid yn unig y mae’r cyhoedd wedi eu codi yn ystod y cyfnod ymgynghori, ond hefyd Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i roi'r newyddion diweddaraf adeiladol iawn hwnnw am y cyfarfod adeiladol iawn hwnnw neithiwr. Ac, yn wir, cytunwyd i gyfarfod eto, ac rwy'n siwr y byddwch yn clywed hynny gan Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau.
O ran eich ail bwynt, wrth gwrs bydd gan gyngor y Fro, cyngor newydd y Fro, lawer o heriau o'u blaenau a phenderfyniadau anodd eu gwneud. Rwy'n falch iawn o'r ffaith yr ystyriwyd cyngor y Fro, dan arweiniad Llafur yn ystod y pum mlynedd diwethaf, fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o'r cynghorwyr, y cynghorwyr Llafur newydd, a gafodd eu hethol hefyd ddydd Iau. Ond, yn amlwg, mae'r blaenoriaethau o'n blaenau, a'r heriau, i gyngor newydd y Fro.
Rwy'n siŵr y gwelodd llawer o’r Aelodau y blaid Geidwadol yn targedu cyhoeddiadau rhanbarthol allweddol ar hyd a lled y DU ddydd Gwener diwethaf, gan gynnwys papurau newydd yn y Gogledd a'r 'South Wales Echo', gan dalu am hysbysebion tudalen flaen sy’n rhoi argraff gamarweiniol o duedd gwleidyddol i’r darllenwyr. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ drefnu dadl ar yr ymdriniaeth etholiadol yn y cyfryngau print a'r angen am gydbwysedd a thegwch wrth adlewyrchu gwleidyddiaeth Cymru?
Credaf fod llawer ohonom wedi gorfod dioddef yr hysbysebion parhaus hyn sydd wedi ymddangos mewn llawer o'n hetholaethau ledled Cymru. Byddaf yn gwneud rhai pwyntiau ffeithiol iawn am y ffaith na thrafodir hysbysebu gwleidyddol gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu. Ni chaiff ei ganiatáu, fel y gŵyr yr Aelodau, ar y teledu o dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, ond caiff ei ganiatáu mewn print. Cafodd ei gynnwys gan yr ASA hyd nes 1999, pan benderfynodd y Pwyllgor Arferion Hysbysebu beidio â’i gynnwys. Hefyd, arweiniodd Deddf Hawliau Dynol 1998 at bryderon ynghylch rheolaethau ar ryddid mynegiant gwleidyddol. Ond rwy’n credu mai’r pwynt allweddol sydd angen ei wneud hefyd yw bod yn rhaid datgan costau hysbysebu mewn ffurflenni etholiad pleidiau canolog i'r Comisiwn Etholiadol. Felly, mae hynny'n bwynt pwysig i'r cyhoedd ei drafod. Ond nid yw’r un o’r pwyntiau ffeithiol hynny yn golygu na ddylid cael dadl ar y mater hwn, wrth gwrs, ac, os oedd cefnogaeth eang ar gyfer hynny o bob rhan o'r Siambr, rwy’n credu y byddem yn dymuno symud ymlaen. Oherwydd, yn amlwg, mae pob un ohonom yn ceisio sicrhau’r angen am gydbwysedd a thegwch wrth adlewyrchu gwleidyddiaeth Cymru.
Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn tynnu sylw at yr ystadegau ar danau glaswellt ledled Cymru a'r gostyngiad a welsom. Newyddion da iawn oedd hynny, ond dau ddiwrnod yn ddiweddarach cafwyd tân glaswellt enfawr yn fy etholaeth i, a dinistriwyd llawer o ardaloedd Mynydd Dinas. A wnewch chi hefyd ymuno â mi i ddiolch i'r diffoddwyr tân am y gwaith a wnaethant? Sicrhaodd eu hymdrechion nhw fod y tân yn cael ei reoli a'i gynnal, ac na chafodd unrhyw eiddo ei ddifrodi. Ond a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet efallai ar y trafodaethau y mae wedi'u cael â'r gwasanaethau tân ac achub ynghylch y strategaethau y maent yn eu rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn cadw’r achosion hyn i’r nifer lleiaf, a, phan fydd tân yn digwydd, sut y byddwn yn ymateb iddo er mwyn sicrhau y gwneir cyn lleied â phosibl o niwed?
O ran ail bwynt, y bore yma cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar hyfforddiant nyrsio yma yng Nghymru. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad y bydd blwyddyn ychwanegol o fwrsarïau i nyrsys, i gefnogi datblygiad nyrsys yma yng Nghymru, o'i gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Ond a gawn ni, mewn gwirionedd, ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl, yn edrych ar y meysydd eraill y mae angen i ni eu hystyried, sef y nyrsys arbenigol ym meysydd pediatreg, iechyd meddwl a newydd-anedig, a’r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i'w cefnogi yn y meysydd hynny? Efallai y gall ychwanegu a fydd wedyn yn cefnogi'r bwrsarïau i nyrsys ymhellach, oherwydd dim ond ar gyfer un flwyddyn y bydd hyn yn digwydd, a byddai'n braf gweld hyn yn ymrwymiad ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn.
Ac, o ran pwynt olaf, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, a gawn ni ddatganiad ganddo ar ddur? Nawr, yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion bod IG Metall, yr undeb llafur yn yr Almaen, yn bryderus iawn am yr uno posibl rhwng ThyssenKrupp a Tata ac, felly, y gallai’r uno fethu. A gawn ni ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae'n eu cynnal â Tata i edrych ar y goblygiadau ar wneud dur yma yng Nghymru a'r hyn fydd yn digwydd i'n gweithfeydd dur ni?
Tri chwestiwn pwysig gan David Rees, ac, mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, do, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad yr wythnos diwethaf yn dilyn nifer o danau glaswellt difrifol iawn, Rwy’n credu bod angen i ni gychwyn, yn gyntaf, trwy ddiolch i’r diffoddwyr tân am eu dewrder yn benodol, nid yn unig o ran y tân diweddaraf a ddigwyddodd, yn anffodus, ond ledled Cymru, gan effeithio ar nifer fawr o'n hetholaethau. Mae'n fater anodd o ran gwasanaethau tân ac achub—yn cymryd rhan lawn, fel y gallech ei weld o ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymdrin â'r ffordd ymlaen o ran atal yn ogystal â rheoli.
Rwy'n credu bod eich ail bwynt yn bwysig iawn o ran y rhan o'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon am ymgyrch recriwtio fawr newydd, a lansiwyd i gynyddu nifer y nyrsys yn y GIG yng Nghymru. Rwy’n siŵr y byddai pawb yn croesawu hynny ar draws y Siambr hon. Ond, wrth gwrs, ymgyrch recriwtio yw hon a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid ceisio recriwtio nyrsys i bob rhan o’r gwasanaeth, yn gyffredinol, yn arbenigol, a hefyd, byddwn i’n ei ddweud, mewn gofal sylfaenol. Mae’n rhaid inni gydnabod y rhan gynyddol bwysig y mae’r nyrs practis a'r nyrsys arbenigol yn ei chwarae yn y gofal sylfaenol yn ogystal ag ar lefel eilaidd ac arbenigol. Ond hefyd y cyhoeddiad pwysicaf yn y trefniadau ar gyfer cynllun bwrsariaeth y GIG—. Fe’i gwnaeth yn eglur fod Cymru yn croesawu busnes, ac rydym yn cefnogi ein nyrsys, mae gennym ddiddordeb mewn sut y gallwn gefnogi eu rhaglenni addysg a hyfforddiant yng Nghymru, ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallant sicrhau bod y trefniadau hynny sydd bellach yn eu lle ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf—ac yna, fel y dywed ei ddatganiad, yn bwriadu rhoi rhagor o ystyriaeth i drefniadau tymor hwy yn sgil canlyniadau'r adolygiad Diamond, gydag ymgynghoriad llawn. Stori newyddion dda iawn i’n nyrsys a’r bobl ifanc hynny a’r myfyrwyr aeddfed sy'n ystyried gyrfa mewn nyrsio.
Eich trydydd pwynt: ydw, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau o ran Tata a'r gwaith dur, sydd, wrth gwrs, yn effeithio yn benodol ar eich etholaeth chi.
Tybed a oes modd amserlennu dadl, yn ddelfrydol yn yr wythnosau nesaf, ar swyddogaeth Llywodraeth Cymru ym maes diogelwch cymunedol. Rydym ni i gyd yn gwybod, fel Aelodau Cynulliad yn y tŷ hwn o bob plaid, am bwysigrwydd diogelwch cymunedol, yn enwedig o ran presenoldeb mewn lifrai yn y rheng flaen. Roeddwn i’n ddigon ffodus, neu'n anffodus, i dreulio 13 wythnos ar Fil y Swyddfa Gartref a gyflwynodd swyddogion diogelwch cymunedol yr heddlu, ac y buddsoddodd Llywodraeth Cymru—edrych o bell yr oeddwn i ar y pryd—yn fawr ynddynt flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gyson. Ac er fy mod i’n cofio’r Ceidwadwyr ar y pwyllgor hwnnw yn dadlau yn groch yn eu herbyn ar y pryd, ymddengys fod pawb yn eu croesawu erbyn hyn, felly mae’n gam da ymlaen. Ond, byddai dadl o'r fath, pe byddem yn ei chynnal yn ystod y pythefnos nesaf, hefyd yn caniatáu i ni drafod, bryd hynny, fuddsoddi nid yn unig mewn SCCH, ond hefyd mewn heddweision rheng flaen a'r ymrwymiad y mae plaid Lafur y DU wedi’i wneud i gyflwyno 800 yn rhagor ar ein strydoedd—800 yn rhagor o heddweision ar y stryd—pe baem yn ennill yr etholiad cyffredinol.
Wel, rwy'n credu bod y ffaith ein bod, yn erbyn heriau ariannol llwm o ganlyniad i doriadau a chaledi Llywodraeth Torïaidd y DU—yn erbyn hynny i gyd, ein bod wedi dewis fel blaenoriaeth, y Llywodraeth Lafur Cymru hon, i barhau i gefnogi ein 500 o swyddogion cymorth cymunedol. A’r hyn sy’n glir iawn yw bod y swyddogion cymorth cymunedol hynny yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r heddluoedd ledled Cymru, ac maent yn chwarae rhan mor amlwg yn ein cymunedau, gan gymryd rhan yn yr union bwynt a wnaethoch chi ynglŷn â mynd i'r afael ag amddiffyn diogelwch cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae pobl dan yr anfantais honno, yr anhawster hwnnw, o ran yr angen am ddiogelwch cymunedol. Rydym, wrth gwrs, yn gweld hyn yn flaenoriaeth wirioneddol, ac mae'n dangos unwaith eto ein gwerthoedd sylfaenol i’n cymunedau fel Llywodraeth Lafur Cymru.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.