Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 9 Mai 2017.
Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn tynnu sylw at yr ystadegau ar danau glaswellt ledled Cymru a'r gostyngiad a welsom. Newyddion da iawn oedd hynny, ond dau ddiwrnod yn ddiweddarach cafwyd tân glaswellt enfawr yn fy etholaeth i, a dinistriwyd llawer o ardaloedd Mynydd Dinas. A wnewch chi hefyd ymuno â mi i ddiolch i'r diffoddwyr tân am y gwaith a wnaethant? Sicrhaodd eu hymdrechion nhw fod y tân yn cael ei reoli a'i gynnal, ac na chafodd unrhyw eiddo ei ddifrodi. Ond a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet efallai ar y trafodaethau y mae wedi'u cael â'r gwasanaethau tân ac achub ynghylch y strategaethau y maent yn eu rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn cadw’r achosion hyn i’r nifer lleiaf, a, phan fydd tân yn digwydd, sut y byddwn yn ymateb iddo er mwyn sicrhau y gwneir cyn lleied â phosibl o niwed?
O ran ail bwynt, y bore yma cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar hyfforddiant nyrsio yma yng Nghymru. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad y bydd blwyddyn ychwanegol o fwrsarïau i nyrsys, i gefnogi datblygiad nyrsys yma yng Nghymru, o'i gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Ond a gawn ni, mewn gwirionedd, ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl, yn edrych ar y meysydd eraill y mae angen i ni eu hystyried, sef y nyrsys arbenigol ym meysydd pediatreg, iechyd meddwl a newydd-anedig, a’r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i'w cefnogi yn y meysydd hynny? Efallai y gall ychwanegu a fydd wedyn yn cefnogi'r bwrsarïau i nyrsys ymhellach, oherwydd dim ond ar gyfer un flwyddyn y bydd hyn yn digwydd, a byddai'n braf gweld hyn yn ymrwymiad ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn.
Ac, o ran pwynt olaf, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, a gawn ni ddatganiad ganddo ar ddur? Nawr, yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion bod IG Metall, yr undeb llafur yn yr Almaen, yn bryderus iawn am yr uno posibl rhwng ThyssenKrupp a Tata ac, felly, y gallai’r uno fethu. A gawn ni ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae'n eu cynnal â Tata i edrych ar y goblygiadau ar wneud dur yma yng Nghymru a'r hyn fydd yn digwydd i'n gweithfeydd dur ni?