Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar hefyd fy mod yn dilyn fy nghyd-Aelod, John Griffiths, sydd wedi ymdrin yn fanwl â’r cyd-destun polisi a ystyriwyd gan ei bwyllgor. Mae gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gylch gwaith llawer mwy cul wrth edrych ar y Bil hwn ac rwy'n mynd i siarad am y cylch gorchwyl penodol hwnnw. A gaf i, wrth wneud hynny, ddiolch, fel bob amser, i fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor am eu gwaith craffu cadarn a diwyd iawn ar y Bil bach hwn, wrth iddo fynd yn ei flaen, ond Bil pwysig iawn o ran y materion yr ydym yn eu hystyried. Rwyf hefyd yn diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am sicrhau ei fod ar gael i’w holi yn eithaf trwyadl a hefyd am ei atebion cadarn ac ystyriol?
Adroddwyd ar y Bil hwn ar 7 Ebrill, ac mae'r adroddiad ar gael ar ffurf copi caled ac ar-lein. Rwy’n ei argymell, nid yn unig i gydweithwyr sy’n Aelodau Cynulliad ond hefyd i aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb ac arsyllwyr eraill â diddordeb yng nghynnydd y Bil penodol hwn.
Pan adroddwyd ar y Bil ar 7 Ebrill, gwnaed tri argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet. Byddaf yn ymdrin â’r rheini yn fanwl ond, cyn gwneud hynny, os caf i wneud rhai sylwadau cyffredinol yn gyflym, sy'n bwysig er mwyn egluro ein hystyriaeth o’r Bil penodol. Fel yn achos gwaith craffu ar yr holl Filiau, rydym yn ystyried materion sy'n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, ac fel yr ydym yn nodi yn ein hadroddiad, nid ein swyddogaeth ni yw mynegi barn ynghylch a yw’r Bil o fewn neu y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Yn hytrach, ein swyddogaeth ni yw tynnu sylw at unrhyw faterion y gall Aelodau'r Cynulliad ddymuno eu hystyried wrth benderfynu a ddylid cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, neu gynnig neu gefnogi gwelliannau yn ystod camau diweddarach craffu.
Felly, o ran y Bil hwn, archwiliwyd datganiad y Llywydd ar gymhwysedd, y mae'n rhaid iddi ei roi, gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Yn rhan o'i datganiad, dywedodd y Llywydd, er bod y Bil, yn ei barn hi, o fewn cymhwysedd y Cynulliad, nododd nad oedd y materion hyn yn syml a bod ei hystyriaeth, yn ei geiriau hi, yn un gytbwys.
Yn awr, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y dystiolaeth a gymerwyd gennym ni oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet a'r cwestiynu a'r dystiolaeth a glywsom, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny o gymorth i Aelodau'r Cynulliad wrth wneud eu penderfyniadau ar y Bil hwn. Ond yn y pen draw, gallai unrhyw gwestiwn ynghylch a yw Bil o'r fath yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol hwn fod yn fater i’r Llys Goruchaf benderfynu arno o safbwynt a yw'r cymhwysedd yn cael ei herio’n briodol.
Felly, trof yn awr at ein tri argymhelliad. Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â phenderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno gwelliant i'r Bil yng Nghyfnod 2 i wahardd y defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod streic ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Yn awr, ein dewis ni fel pwyllgor, fel yr ydym yn datgan yn yr adroddiad, yw y dylai darpariaeth o arwyddocâd polisi o'r fath yn ddelfrydol gael ei chynnwys yn y Bil wrth ei gyflwyno. Byddai cynnwys y ddarpariaeth wrth gyflwyno’r Bil wedi caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried adroddiad pwyllgor sy'n archwilio ac yn ystyried barn rhanddeiliaid ar y defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod streic. Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei hymgynghoriad ei hun ar y cynnig penodol hwn, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, mae ymgynghoriad o'r fath yn broses wahanol i un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymwneud â'r egwyddorion ac union eiriad Bil fel rhan 1 o'r broses graffu ddeddfwriaethol Cyfnod 1.
Felly, roedd ein hargymhelliad cyntaf yn gofyn am eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pam nad oedd y Bil yn cynnwys darpariaeth wrth ei gyflwyno am y defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod streic, ac, yn yr un un modd, gofynnwyd pam na ellid fod wedi gohirio'r Bil am ychydig, o bosibl, ar gyfer sefyllfa o'r fath. Ond rwy’n ddiolchgar iawn heddiw am ymateb manwl ac esboniad pellach a chyfiawnhad Ysgrifennydd y Cabinet. Nodaf, fel yr ydym newydd glywed, fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—boed hynny drwy hap neu, fel arall, gynllunio perffaith, nid wyf yn gwybod—wedi gallu, yn wir, cymryd tystiolaeth ar y mater hwn yn ystod ei graffu Cyfnod 1 ei hun a’i ymgorffori o fewn hynny, gan gynnwys ymgysylltu eang â rhanddeiliaid, ac mae hynny’n galonogol o ran ein hargymhelliad cyntaf.
Ac mae’r ail a'r trydydd argymhelliad a wnaethom yn ymwneud â'r un pŵer a geir yn adran 2 y Bil i wneud is-ddeddfwriaeth. Ac, fel yr ydym wedi clywed yn ystod sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma, cafwyd sicrwydd mawr ar hynny, a chroesawaf y newidiadau arfaethedig i'r Bil a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma pan oedd ar ei draed. Mae ein dadansoddiad o’r Bil hwn yn dechnegol iawn ac yn fanwl iawn ac yn gul o ran ei gylch gwaith, ond rwy’n argymell yr adroddiad i Aelodau'r Cynulliad os yw hynny’n eu helpu yn eu hystyriaeth.