Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 9 Mai 2017.
Mae braidd yn anffodus fy mod yn teimlo'r angen i sefyll ac yn sylfaenol wrthwynebu egwyddorion cyffredinol cyflwyno'r Bil hwn drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy’n gwneud hynny ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymreig y Cynulliad, ond hefyd ar ran ein trethdalwyr yng Nghymru. Y llynedd, cafodd Deddf yr Undebau Llafur Llywodraeth y DU 2016 ei phasio gan Gydsyniad Brenhinol ar ôl ymgynghori sylweddol ac ymgysylltu â'n gweithwyr rheng flaen, undebau llafur a chafwyd mandad clir gan bleidleiswyr ein gwlad. [Torri ar draws.] Roedd yn y maniffesto. Mae Deddf y Deyrnas Unedig yn nodi darpariaethau ar sail nifer y pleidleiswyr a’r gefnogaeth i streic, proses dryloyw am danysgrifiadau, a'r gofyniad bod didyniadau cyflogres ar gyfer tanysgrifiadau yn cael eu gweinyddu yn unig lle nad yw'r gost yn cael ei hariannu gan y cyhoedd. Yn awr, mae Bil yr Undebau Llafur (Cymru) yn ceisio datgymhwyso rhannau o'r Ddeddf honno yma yng Nghymru.
Yn awr, fel y darn cyntaf o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru eleni, ystyrir y Bil hwn yn ddiangen, yn feichus ac yn gostus. Rwy'n credu y bydd y trethdalwyr yn cael siom o gael gwybod am yr amser a'r egni a dreuliwyd ar hyn, a’r gost, a allai fod wedi talu am ddatblygu Bil awtistiaeth i Gymru, neu ddeddfu i fynd i'r afael â methiannau niferus a sylweddol Llywodraeth Lafur Cymru.
Mae bod yn agored a thryloyw ynghylch cost wirioneddol undebau llafur a gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus sy'n ymgymryd â gweithgareddau undeb yn hanfodol.