Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch, Llywydd. Mae mynd i'r afael â gordewdra yn her fawr i bob Llywodraeth yn y byd datblygedig. Mae'n gofyn i amrywiaeth eang o sefydliadau weithredu ar y cyd o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn ogystal ag unigolion eu hunain. Rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno cynigion ar gyfer strategaeth gordewdra genedlaethol yng Nghyfnod 2 o broses ystyried y Bil, ac am y gwelliannau diwygiedig sy’n cael eu hystyried heddiw. Pan gafodd y gwelliannau gwreiddiol eu cyflwyno yng Nghyfnod 2, nodais fy mod yn gallu gweld gwerth dod ag ystod o fesurau at ei gilydd drwy strategaeth gordewdra genedlaethol gydlynol. Fodd bynnag, o ganlyniad i rai pryderon ynghylch manylion y cynigion, nid oeddwn yn gallu cefnogi'r gwelliannau ar eu ffurf wreiddiol. Felly, rwy’n diolch i Rhun ap Iorwerth am gytuno i weithio gyda'r Llywodraeth i ystyried y mater ymhellach, ac am y gwelliannau diwygiedig gerbron y Cynulliad heddiw. Rwy'n hyderus bod y gwelliannau bellach yn cyflawni ein hamcanion er budd pobl Cymru. Rwy'n falch fy mod erbyn hyn yn gallu cefnogi pob un o'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Rwy’n ddiolchgar i'r Aelod am ystyried y pwyntiau a wnes, ac am weithio ar y cyd i fireinio manylion y cynigion ymhellach. Rwy'n arbennig o falch bod y gwelliannau diwygiedig yn caniatáu ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid a chanolbwyntio ar atal. Rwy'n hyderus y bydd y gwelliannau hyn yn cryfhau'r Bil drwy osod gwaith Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r her iechyd cyhoeddus sylweddol hon ar sail statudol. Rwy'n hyderus y bydd y gwelliannau yn sicrhau newid cadarnhaol ar gyfer pobl Cymru, ac felly rwy’n gofyn i’r Aelodau eu cefnogi.