<p>Grŵp 2: Ysmygu — Mangreoedd Di-fwg (Gwelliannau 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 5)</p>

Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 9 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:59, 9 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Er y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gwelliannau yn yr adran hon, rydym yn pryderu bod y ddeddfwriaeth hon yn debygol o gael yr effaith fwyaf ar arferion gwaith busnesau bach. Ar lawer agwedd, mae llwyddiant y Bil hwn yn dibynnu ar allu cwmnïau bach i gydymffurfio â'r newidiadau mewn deddfwriaeth, felly mae'n hanfodol bod busnesau’n gallu deall goblygiadau'r Bil yn llawn.

Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaethom gyflwyno gwelliannau i'r Bil a oedd yn ceisio darparu mwy o eglurder ynglŷn â rhoi mangreoedd di-fwg ar waith, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny sy'n hunangyflogedig neu'n gweithio gartref, gan alw ar y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau wedi'u targedu a thrylwyr i fusnesau bach a allai ddangos beth a ddisgwylir ganddynt o ran newidiadau yn y gyfraith. Bryd hynny, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd y byddai unrhyw ganllawiau a gyhoeddir ynglŷn â mangreoedd di-fwg, ac yr wyf yn dyfynnu, yn nodi cyfrifoldebau pobl yng ngeiriau lleygwr, ac felly’n helpu’r bobl yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth i ddeall beth yw eu cyfrifoldebau newydd.

Aeth y Gweinidog ymlaen i roi sicrwydd pellach y byddai'r canllawiau a gyhoeddwyd ar y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn 2007 yn cael ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi. Felly, yn seiliedig ar hynny, fe wnaethom gytuno i beidio ag ailgyflwyno’r gwelliannau yng Nghyfnod 3.

O ran gwelliant 6, mae’n rhaid i’r Gweinidog roi sicrwydd y bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i roi eglurder o ran yr hyn a ddisgwylir gan unigolion o ran y ddyletswydd hon, gan nad yw hyn wedi'i nodi eto yn y memorandwm esboniadol. Mae'n hanfodol bod rhai sefyllfaoedd enghreifftiol yn cael eu cyflwyno i benderfynu beth a ddisgwylir gan warchodwyr plant er mwyn hybu cydymffurfiad â'r gyfraith.

Yn yr adran hon, roedd geiriad cychwynnol y Bil hwn wedi creu pŵer i Weinidogion Cymru weithredu mangreoedd di-fwg ychwanegol ar y sail —a dyfynnaf—os ydynt yn fodlon bod gwneud hynny yn debygol o gyfrannu tuag at hyrwyddo iechyd pobl Cymru.

Gallai hynny o bosibl arwain at waharddiad cyffredinol ar draws Cymru gyfan. Nawr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi’r mater hwn yn helaeth, oherwydd er ein bod yn derbyn ei bod yn annhebygol iawn y byddai gwaharddiad cyffredinol yn cael ei roi ar waith, rydym yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn dangos bod gwleidyddion yn y Cynulliad Cenedlaethol yn creu deddfwriaeth gadarn, a bod y pŵer cyffredinol hwn yn gyfyngedig. Er gwaethaf hynny, ar lefel pwyllgor, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd nad oedd unrhyw fwriad i ddeddfu gwaharddiad cyffredinol a dilëwyd ein gwelliant. Felly, mae hi braidd yn eironig, ond i’w groesawu'n fawr, gweld bod y Gweinidog yng Nghyfnod 3 wedi cyflwyno gwelliannau pellach i adran 10 y Bil sy'n ceisio cyfyngu ar y cymal hwn, er gwaethaf ei honiadau nad oedd hynny’n angenrheidiol. Croesewir y cyfyngiad hwn, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliant 10. Fodd bynnag, mae'n anffodus bod y Gweinidog wedi annog pobl eraill i wrthod gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2.