6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 9 Mai 2017.
Mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â mangreoedd di-fwg. Gwelliant 6 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Byddai'r Bil, fel y mae ar hyn o bryd, am y tro cyntaf erioed, yn gwneud tri man awyr agored yn ddi-fwg. Y rhain yw: tir ysgol, tir ysbyty a meysydd chwarae cyhoeddus. Rwyf wedi bod yn falch o weld y gefnogaeth eang i’r cam arwyddocaol hwn sydd wedi bod yn glir drwy gydol y broses graffu. Yn ystod ystyriaeth Cyfnod 1 o’r Bil, gwnaed nifer o awgrymiadau ar gyfer mannau awyr agored ychwanegol a ddylai fod yn ddi-fwg. Rwyf wedi bod yn glir drwy’r adeg bod cymhlethdodau cynhenid yn gysylltiedig â darpariaethau o'r fath, ond dywedais y byddwn yn rhoi ystyriaeth weithredol i bedwerydd lleoliad, sef lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, yn uniongyrchol mewn ymateb i dystiolaeth trafodaethau rhanddeiliaid a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. O ganlyniad i'r ystyriaeth honno, rwy'n falch o fod wedi dwyn ymlaen y gwelliannau yn y grŵp hwn a fyddai'n ychwanegu mannau awyr agored lleoliadau gofal cofrestredig ar gyfer plant at y rhestr o fangreoedd di-fwg. Mae hwn yn gam nesaf naturiol sy'n amddiffyn plant ymhellach rhag effeithiau niweidiol ysmygu a’i weld fel gweithgaredd arferol, bob dydd.
Gwelliant 8 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Mae'n rhoi manylion y lleoliadau i’w cynnwys, sef lleoliadau gofal dydd cofrestredig ar gyfer plant a gwarchodwyr plant sy'n darparu gofal yn eu safle domestig eu hunain. Ni fydd y mannau awyr agored yn ddi-fwg oni bai bod y safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gofalu am blant. O ran gwarchodwyr plant, ni fydd mannau awyr agored eu cartrefi yn ddi-fwg oni bai bod un neu fwy o blant yn derbyn gofal yn y man awyr agored. Mae hyn yn sicrhau bod cydbwysedd priodol yn cael ei daro rhwng amddiffyn plant a hawliau unrhyw ysmygwyr sy'n byw yng nghartref y gwarchodwr plant.
Mae gwelliannau 6 a 7 yn berthnasol i'r rhai sy'n rheoli neu sy'n ymwneud â rheoli'r safleoedd gofal dydd, neu sydd wedi’u cofrestru i weithredu fel gwarchodwr plant. Disgwylir iddynt gymryd camau rhesymol i atal pobl rhag ysmygu yn y mangreoedd di-fwg, ac mae'r gwelliannau hefyd yn ei gwneud yn drosedd i beidio â gwneud hynny.
Mae gwelliant 5 yn adlewyrchu’r gofynion di-fwg ychwanegol yn nheitl hir y Bil, ac mae gwelliant 9 yn ychwanegu’r adran newydd i'w chyflwyno gan welliant 8 i restr o fangreoedd a ddynodir yn ddi-fwg gan y Bil.
Mae gweddill y gwelliannau yn y grŵp hwn yn egluro na ellir gwneud mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd yn ddi-fwg drwy ddefnyddio'r pŵer o dan adran 10 y Bil. Maent hefyd yn darparu’r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gellir gwneud mangre a ddefnyddir yn rhannol fel annedd yn ddi-fwg yn y dyfodol, gan ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 10.
Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn, a fydd yn darparu mesurau diogelwch ychwanegol pwysig i blant yng Nghymru.
Er y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gwelliannau yn yr adran hon, rydym yn pryderu bod y ddeddfwriaeth hon yn debygol o gael yr effaith fwyaf ar arferion gwaith busnesau bach. Ar lawer agwedd, mae llwyddiant y Bil hwn yn dibynnu ar allu cwmnïau bach i gydymffurfio â'r newidiadau mewn deddfwriaeth, felly mae'n hanfodol bod busnesau’n gallu deall goblygiadau'r Bil yn llawn.
Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaethom gyflwyno gwelliannau i'r Bil a oedd yn ceisio darparu mwy o eglurder ynglŷn â rhoi mangreoedd di-fwg ar waith, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny sy'n hunangyflogedig neu'n gweithio gartref, gan alw ar y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau wedi'u targedu a thrylwyr i fusnesau bach a allai ddangos beth a ddisgwylir ganddynt o ran newidiadau yn y gyfraith. Bryd hynny, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd y byddai unrhyw ganllawiau a gyhoeddir ynglŷn â mangreoedd di-fwg, ac yr wyf yn dyfynnu, yn nodi cyfrifoldebau pobl yng ngeiriau lleygwr, ac felly’n helpu’r bobl yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth i ddeall beth yw eu cyfrifoldebau newydd.
Aeth y Gweinidog ymlaen i roi sicrwydd pellach y byddai'r canllawiau a gyhoeddwyd ar y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn 2007 yn cael ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi. Felly, yn seiliedig ar hynny, fe wnaethom gytuno i beidio ag ailgyflwyno’r gwelliannau yng Nghyfnod 3.
O ran gwelliant 6, mae’n rhaid i’r Gweinidog roi sicrwydd y bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i roi eglurder o ran yr hyn a ddisgwylir gan unigolion o ran y ddyletswydd hon, gan nad yw hyn wedi'i nodi eto yn y memorandwm esboniadol. Mae'n hanfodol bod rhai sefyllfaoedd enghreifftiol yn cael eu cyflwyno i benderfynu beth a ddisgwylir gan warchodwyr plant er mwyn hybu cydymffurfiad â'r gyfraith.
Yn yr adran hon, roedd geiriad cychwynnol y Bil hwn wedi creu pŵer i Weinidogion Cymru weithredu mangreoedd di-fwg ychwanegol ar y sail —a dyfynnaf—os ydynt yn fodlon bod gwneud hynny yn debygol o gyfrannu tuag at hyrwyddo iechyd pobl Cymru.
Gallai hynny o bosibl arwain at waharddiad cyffredinol ar draws Cymru gyfan. Nawr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi’r mater hwn yn helaeth, oherwydd er ein bod yn derbyn ei bod yn annhebygol iawn y byddai gwaharddiad cyffredinol yn cael ei roi ar waith, rydym yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn dangos bod gwleidyddion yn y Cynulliad Cenedlaethol yn creu deddfwriaeth gadarn, a bod y pŵer cyffredinol hwn yn gyfyngedig. Er gwaethaf hynny, ar lefel pwyllgor, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd nad oedd unrhyw fwriad i ddeddfu gwaharddiad cyffredinol a dilëwyd ein gwelliant. Felly, mae hi braidd yn eironig, ond i’w groesawu'n fawr, gweld bod y Gweinidog yng Nghyfnod 3 wedi cyflwyno gwelliannau pellach i adran 10 y Bil sy'n ceisio cyfyngu ar y cymal hwn, er gwaethaf ei honiadau nad oedd hynny’n angenrheidiol. Croesewir y cyfyngiad hwn, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliant 10. Fodd bynnag, mae'n anffodus bod y Gweinidog wedi annog pobl eraill i wrthod gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2.
Mae UKIP yn cefnogi ymestyn deddfwriaeth ddi-fwg i bob lleoliad lle gallai plant gael eu hamlygu i fwg ail-law, ac felly bydd yn cefnogi gwelliannau'r Gweinidog yn y grŵp hwn. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i’r ddadl.
Diolchaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i’r mesurau hyn o fewn y Bil. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ailadrodd y sicrwydd a roddais yng Nghyfnod 2 ynghylch cyhoeddi canllawiau priodol.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 7, Gweinidog.
Ie, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 8, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Os na dderbynnir gwelliant 8, bydd gwelliant 5 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 8.
Gwelliant 9, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 9.
Gwelliant 10, Gweinidog.
Ie, cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11, Gweinidog.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12, Gweinidog.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 12.
Gwelliant 13, Gweinidog.
Ie, cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 13.
Gwelliant 14, Gweinidog.
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 14.