Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn i gyd yn dechnegol eu natur ac yn gwneud mân newidiadau i helpu i ddeall y darpariaethau. Maent yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 i enwi'r awdurdodau gorfodi ar gyfer y darpariaethau mangreoedd di-fwg ar wyneb y Bil, yn hytrach na'u dynodi mewn rheoliadau fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Nid yw'r un o'r gwelliannau yn gwneud newid sylweddol i'r darpariaethau ac anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau technegol hyn.