6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 9 Mai 2017.
Mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud ag ysmygu a gorfodi. Gwelliant 15 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy’n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Rebecca Evans.
Diolch. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn i gyd yn dechnegol eu natur ac yn gwneud mân newidiadau i helpu i ddeall y darpariaethau. Maent yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 i enwi'r awdurdodau gorfodi ar gyfer y darpariaethau mangreoedd di-fwg ar wyneb y Bil, yn hytrach na'u dynodi mewn rheoliadau fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Nid yw'r un o'r gwelliannau yn gwneud newid sylweddol i'r darpariaethau ac anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau technegol hyn.
Nid oes siaradwyr ar y gwelliannau yma. Felly, rwy’n cymryd nad yw’r Gweinidog eisiau ymateb i’r ddadl. Y cwestiwn sy’n dilyn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 15.
Gwelliant 16, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 16.
Gwelliant 17, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 17.
Gwelliant 18, Gweinidog.
Ie, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 18.
Gwelliant 19, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 19.
Gwelliant 20, Gweinidog.
Ie, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 20.