<p>Grŵp 4: Manwerthwyr Cynhyrchion Tybaco a Nicotin (Gwelliannau 32, 21)</p>

Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 9 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:08, 9 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n ddiolchgar i Angela Burns am gyflwyno gwelliant 32 yn dilyn mater a gododd yn ystod Cyfnod 2 ynglŷn â’r posibilrwydd i'r awdurdod cofrestru gynnwys gwybodaeth ar y gofrestr nad yw’n gyson â bwriad y polisi. Rwy'n falch o gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fodd bynnag, mae derbyn gwelliant 32 yn codi mater y mae angen rhoi sylw iddo.

Byddai gwelliant 32 yn atal gwybodaeth rhag cael ei chynnwys ar y gofrestr ynghylch pa un a yw manwerthwr yn cynnig gwasanaethau casglu neu ddanfon i'r cartref ai peidio. Mae'n bwysig bod yr wybodaeth hon ar gael i awdurdodau gorfodi er mwyn helpu i orfodi'r drosedd newydd o roi tybaco ac yn y blaen i bobl o dan 18 oed, i'w chyflwyno gan Ran 2, Pennod 4 y Bil.

Mae gwelliant 21 yn ofynnol er mwyn caniatáu i’r wybodaeth honno fod ar gael ar y gofrestr. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau welliant yn y grŵp hwn, sydd gyda'i gilydd yn sicrhau mai dim ond gwybodaeth briodol sy’n cael ei chynnwys ar y gofrestr ac y gall awdurdodau gorfodi weld yr wybodaeth y maent ei hangen ynghylch darparu gwasanaethau casglu a danfon i'r cartref.