6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 9 Mai 2017.
Mae’r grŵp nesaf yn ymwneud â manwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin. Gwelliant 32 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy’n galw ar Angela Burns i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp—Angela Burns.
Diolch, Llywydd. Yn unol â bwriad polisi'r Ceidwadwyr Cymreig i amddiffyn busnesau bach rhag cael eu cosbi’n ormodol gan y ddeddfwriaeth hon, rydym wedi cyflwyno'r gwelliant hwn sy'n nodi bwriad i ddiogelu manwerthwyr a’u data trwy sicrhau mai dim ond gwybodaeth berthnasol a gedwir amdanynt ar gofrestr manwerthwyr. Rydym yn croesawu parodrwydd y Gweinidog i weithio gyda ni yn hyn o beth ac i rannu ein pryderon ynghylch yr hyn sy'n rhesymol pan ddaw hi i gadw gwybodaeth am fanwerthwyr. Yn ystod y cyfnod pwyllgor, dywedodd y Gweinidog:
Un o'r prif ystyriaethau wrth ddatblygu'r gofrestr manwerthu oedd sicrhau cydbwysedd priodol rhwng cyflawni nodau’r polisi a lleihau'r baich ar fanwerthwyr. Yn unol â’r egwyddor arweiniol hon, ni fyddem yn dymuno cynnwys manylion ychwanegol, megis ffotograffau, oni bai bod hynny’n dod yn gwbl angenrheidiol. Serch hynny, mae'n bwysig cadw’r gallu i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at y gofrestr manwerthu er mwyn gallu ymateb i amgylchiadau newidiol.
Codaf hyn fel pryder mawr oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes gan fusnesau bach fawr iawn o amser, nid oes ganddynt bentwr o arbenigwyr i'w helpu a gellid eu rhoi o dan bwysau aruthrol petai cyngor sir neu unrhyw awdurdod arall yn dewis ceisio cael mwy o wybodaeth ganddynt. Felly, rwy'n falch iawn bod gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn ystod Cyfnod 2 wedi ysgogi’r Gweinidog i ailystyried adran 27(6). Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a'i chyfreithiwr am ein helpu i adolygu'r adran hon a’r cyfreithiwr am ei chymorth wrth ei hailddrafftio. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn.
Galwaf ar y Gweinidog. Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar i Angela Burns am gyflwyno gwelliant 32 yn dilyn mater a gododd yn ystod Cyfnod 2 ynglŷn â’r posibilrwydd i'r awdurdod cofrestru gynnwys gwybodaeth ar y gofrestr nad yw’n gyson â bwriad y polisi. Rwy'n falch o gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fodd bynnag, mae derbyn gwelliant 32 yn codi mater y mae angen rhoi sylw iddo.
Byddai gwelliant 32 yn atal gwybodaeth rhag cael ei chynnwys ar y gofrestr ynghylch pa un a yw manwerthwr yn cynnig gwasanaethau casglu neu ddanfon i'r cartref ai peidio. Mae'n bwysig bod yr wybodaeth hon ar gael i awdurdodau gorfodi er mwyn helpu i orfodi'r drosedd newydd o roi tybaco ac yn y blaen i bobl o dan 18 oed, i'w chyflwyno gan Ran 2, Pennod 4 y Bil.
Mae gwelliant 21 yn ofynnol er mwyn caniatáu i’r wybodaeth honno fod ar gael ar y gofrestr. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau welliant yn y grŵp hwn, sydd gyda'i gilydd yn sicrhau mai dim ond gwybodaeth briodol sy’n cael ei chynnwys ar y gofrestr ac y gall awdurdodau gorfodi weld yr wybodaeth y maent ei hangen ynghylch darparu gwasanaethau casglu a danfon i'r cartref.
Galwaf ar Angela Burns i ymateb i’r ddadl.
Dim ond i ddweud: diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich cydweithrediad. Hoffwn ailadrodd unwaith eto bod cyfreithiwr y Llywodraeth o gymorth mawr yn y mater hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 32.
Gweinidog, gwelliant 21.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 21.