Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch. Rwy’n diolch yn arbennig i Rhun ap Iorwerth am ei gefnogaeth i’r gwelliannau o fewn y grŵp penodol hwn, sy’n adlewyrchu’r pryderon a gododd yn ystod Cyfnod 2, a diolchaf hefyd i eraill a fydd yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gadarnhau y byddaf yn ymgynghori â'r cyrff proffesiynol ar y mater o eithriadau fel mater o flaenoriaeth, fel y cadarnhawyd yng Nghyfnod 2.