6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 9 Mai 2017.
Mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â thrwyddedau ar gyfer triniaethau arbennig. Gwelliant 22 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rydw i’n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant, ac i siarad am y gwelliant hwn a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Rebecca Evans.
Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn cynnig cyfres o newidiadau i'r rhan o'r Bil sy’n creu system drwyddedu newydd ar gyfer gweithdrefnau arbennig, sef tyllu’r corff, tatŵio, aciwbigo ac electrolysis. Rwyf wedi fy nghalonogi bod y cynigion hyn wedi denu cefnogaeth gyffredinol eang, gan y byddant yn darparu mesurau diogelwch pwysig ar gyfer y cyhoedd sy'n dewis cael y gweithdrefnau hyn.
Mae'r gwelliant cyntaf yn y grŵp o ganlyniad i ystyriaeth ofalus a roddais i bryderon a godwyd gan Rhun ap Iorwerth yng Nghyfnod 2. Mae'r rhain yn ymwneud yn benodol â'r goblygiadau iechyd difrifol posibl o datŵio pelen y llygad a'r angen i sicrhau bod yr arfer hwn ond yn cael ei wneud gan unigolion â chymwysterau priodol.
Mewn ymateb i'r pryderon hyn, fe wnes i ymrwymiad i weithio gyda'r Aelod i sicrhau bod yr ymgynghoriad ar yr amodau trwyddedu gorfodol yn cynnwys tatŵio pelen y llygad fel bod dulliau diogelu priodol a chymesur yn cael eu rhoi ar waith. Mae gwelliant 22 yn cyflawni'r ymrwymiad hwn drwy ei roi y tu hwnt i amheuaeth y gall amodau trwyddedu gorfodol wneud darpariaeth ynghylch safonau cymhwysedd sy'n berthnasol i berfformio gweithdrefn arbennig ar ran benodol o gorff unigolyn, megis y llygad, gan gynnwys cyfeirio at gymwysterau neu brofiad.
Mae'n fwriad gennyf y bydd yr ymgynghoriad ar y meini prawf a’r amodau trwyddedu gorfodol yn gofyn am farn ar y rheolau y dylid eu rhoi ar waith ar gyfer gweithdrefnau arbennig, megis tatŵio pelen y llygad, gan gynnwys rheolau sy’n gysylltiedig â chymwysterau, cymhwysedd a phrofiad. Yr amcan yw sicrhau na ddylai gweithdrefn o'r fath gael ei chynnal oni bai bod yr ymarferydd yn gymwysedig ac yr ystyrir ei fod yn gymwys i wneud hynny.
Byddai perfformio gweithdrefn arbennig heb drwydded yn drosedd y gellid ei chosbi â dirwy anghyfyngedig. Mae’r dull hwn yn well na'r gwelliannau a gynigiwyd gan Caroline Jones, a byddwn yn trafod y rheiny yn y grŵp nesaf. Bydd fy ngwelliannau i yn darparu dull mwy hyblyg o fynd i’r afael, drwy feini prawf ac amodau trwyddedu gorfodol, ag unrhyw weithdrefn arbennig a ddatblygir yn y dyfodol sy'n codi pryderon tebyg.
Gan droi yn awr at welliant 23: gwelliant technegol yw hwn i’w gwneud yn glir bod yn rhaid i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ymdrin â materion i’w hystyried wrth benderfynu a godwyd amheuaeth, ac i ba raddau, ynghylch cymhwyster ymgeisydd i berfformio gweithdrefn arbennig, o ganlyniad i'r ffaith fod ganddo euogfarn am drosedd berthnasol. Mae hyn yn adeiladu ar y newidiadau a wnaed i'r Bil yn ystod Cyfnod 2 yn ymwneud â throseddau perthnasol, a bydd yn helpu i sicrhau dull cyson ar draws y Bil.
Mae gwelliannau 25 a 26 yn y grŵp hwn hefyd yn ceisio mynd i'r afael â phryderon pwysig a godwyd gan Angela Burns yn ystod Cyfnod 2 ynghylch sicrhau bod y cyhoedd yn cael gweld yr wybodaeth. Mae'r gwelliannau yn egluro bod yn rhaid i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi ei gofrestr o drwyddedau gweithdrefn arbennig a safleoedd a cherbydau cymeradwy. Mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i'r awdurdod lleol gynhyrchu a chyhoeddi ei gofrestr, er enghraifft ar ei wefan, yn hytrach na dim ond sicrhau ei bod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn ei swyddfeydd. Felly, mae'n helpu i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am drwyddedau gweithdrefn arbennig dilys a chymeradwyaethau safleoedd yn fwy hygyrch i'r unigolion sy'n ystyried cael gweithdrefn arbennig wedi’i chynnal.
Mae gwelliant 24 yn newid technegol sy'n dileu geiriad diangen er mwyn sicrhau bod adran 65 yn fwy eglur.
Diolchaf i'r Aelodau priodol am dynnu sylw at faterion pwysig ynglŷn â Rhan 3 y Bil yr eir i’r afael â nhw yn y grŵp hwn. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp.
Byddwn yn cefnogi pob un o'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Fodd bynnag, hoffwn gofnodi bod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu na ddylai unrhyw unigolyn gael ei eithrio rhag cael trwydded os yw’n darparu gweithdrefn arbennig. Felly, dyna pam yn ystod Cyfnod 2 y cyflwynasom welliannau a oedd yn ceisio cael gwared ar yr eithriad hwn. Os nad oes gan unigolyn y cymhwysedd a reoleiddir penodol i wneud y weithdrefn, rydym yn credu na ddylai gael gwneud hynny. Mae hyn yn gyson â llawer o'r dystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfnod pwyllgor, ac argymhelliad 12 o adroddiad y pwyllgor, y dylai'r Bil gael ei ddiwygio fel nad oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer eithriad cyffredinol ar wyneb y Bil ar gyfer unrhyw broffesiwn gofal iechyd. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi bod angen eithriadau, er mwyn i'r Bil hwn aros o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol datganoledig, i sicrhau nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn tresbasu ar y cyrff rheoleiddio meddygol, megis y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Yng nghyfnod y pwyllgor, dywedodd y Gweinidog y gallai gadarnhau ei bod yn bwriadu cynnal ymgynghoriad â’r cyrff rheoleiddio hynny i benderfynu ar ba un a yw pob un o'r gweithdrefnau arbennig a restrir o fewn cwmpas gwaith proffesiynol eu haelodau. Felly, mae'r eithriad yn amodol ar gael cadarnhad gan eu corff rheoleiddio eu bod yn gymwys yn y weithdrefn y maent yn dymuno’i pherfformio, ac os nad ydynt, byddant yn cael eu cyfeirio’n ôl i mewn i'r system drwyddedu drwy reoliadau a bydd yn rhaid iddynt wneud cais am drwydded.
Yn ein barn ni, mae'n hanfodol bod y Gweinidog yn bwrw ymlaen â'i hymgynghoriadau gyda chyrff rheoleiddio i sicrhau mai dim ond y rhai sydd fwyaf cymwys sy’n ymgymryd â’r gweithdrefnau hyn at ddibenion meddygol neu lawfeddygol. Felly, mae gwelliant 22 fel y'i cyflwynwyd yn cryfhau'r ddeddfwriaeth hon er mwyn sicrhau bod safonau cymhwysedd yn cael eu hasesu cyn cael trwydded. Mae gan hyn y potensial i reoleiddio maes arbenigol a gweithdrefnau a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnal gan unigolion cymwys a phrofiadol. O ystyried y pwnc dan sylw, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud yn union hynny.
Mi fyddwn ni'n cefnogi’r grŵp yma o welliannau gan y Llywodraeth. Mae gwelliant 22 yn arbennig yn adlewyrchu’r pryderon godais i, fel clywsom ni gan y Gweinidog, yn y cymal pwyllgor mewn perthynas â’r lefel o allu yr ydym ni yn credu sydd ei angen ar gyfer tatŵio llygaid. Mi gynigiom ni mai dim ond pobl wedi’u cofrestru efo’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, o bosib, a ddylai gael gwneud. Mi welwch chi yn y grŵp nesaf o welliannau fod Caroline Jones wedi cyflwyno’r gwelliannau hynny y gwnes i eu cyflwyno yn y pwyllgor, y rheini y cyfeiriodd y Gweinidog atyn nhw. Fy mwriad i, yn syml iawn, oedd chwilio am sicrwydd y gellid cyfyngu ar y tatŵs yma sydd â lefel uchel o risg yn ymwneud â nhw. Yn y pwyllgor, ac yna mewn trafodaeth efo’r Llywodraeth, rydw i’n credu fy mod i wedi cael y sicrwydd yna yr oeddwn yn chwilio amdano fo. Rwy’n ddiolchgar am hynny. Rwyf hefyd yn falch iawn fy mod i wedi gallu codi’r mater yma a’i fod o wedi cael ei drafod, ond ar ôl llwyddo i gael, rwy’n meddwl, y sicrwydd yr oeddwn yn chwilio amdano fo, mi rydw i’n hapus i gefnogi’r gwelliannau yma gan y Llywodraeth ac nid y rhai yng ngrŵp 6.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i’r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch. Rwy’n diolch yn arbennig i Rhun ap Iorwerth am ei gefnogaeth i’r gwelliannau o fewn y grŵp penodol hwn, sy’n adlewyrchu’r pryderon a gododd yn ystod Cyfnod 2, a diolchaf hefyd i eraill a fydd yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gadarnhau y byddaf yn ymgynghori â'r cyrff proffesiynol ar y mater o eithriadau fel mater o flaenoriaeth, fel y cadarnhawyd yng Nghyfnod 2.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 22.
Gwelliant 23, Gweinidog.
Ie, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 23.
Gwelliant 24, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 24? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 24.
Gwelliant 25, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 25.
Gwelliant 26, Gweinidog.
Ie, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 26.