Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 9 Mai 2017.
Pan fyddwn yn datblygu’r rheoliadau hyn, yn amlwg byddwn yn ymgynghori'n eang, yn enwedig â'r gymuned feddygol o ran yr hyn y maen nhw’n ei gredu fyddai’n briodol o ran ymgymryd â gweithdrefnau arbennig o'r math penodol hwn.
Fel yr amlinellais yn y drafodaeth flaenorol, mae'r gwelliant a gyflwynais yn ei gwneud yn glir y gall yr amodau a meini prawf trwyddedu gorfodol wneud y darpariaethau hyn, ac fel y cyfryw, bydd y meini prawf a'r amodau yn gallu gwneud darpariaeth benodol ac wedi'i thargedu ynglŷn â thatŵio pelen y llygad, ac rwy’n credu mai hwn yw’r dull mwyaf priodol o ymdrin â'r mater pwysig hwn, yn hytrach na'r dull a awgrymwyd gan y gwelliannau yn y grŵp hwn. Mae'r dull hwn hefyd yn rhoi’r hyblygrwydd sydd ei angen i ymdrin â gweithdrefnau eraill a allai ddod i'r amlwg a chyflwyno pryderon iechyd tebyg yn y dyfodol.
Fy mwriad i yw y bydd yr ymgynghoriad sy'n ofynnol ar y meini prawf ac amodau trwyddedu gorfodol yn gofyn am farn ar y rheolau a chyfyngiadau priodol y dylid eu rhoi ar waith ar gyfer gweithdrefnau fel tatŵio pelen y llygad, gan gynnwys rheolau sy’n gysylltiedig â chymwysterau, profiad a chymhwysedd. Yr amcan fydd sicrhau na chaiff gweithdrefn o'r fath ei chynnal oni bai bod yr ymarferydd yn gymwysedig ac yr ystyrir ei fod yn gymwys i wneud hynny.
Byddai'r dull a amlinellais yn golygu y gwaherddid unrhyw un nad yw’n bodloni meini prawf ac amodau trwyddedu llym rhag tatŵio pelen y llygad. Byddai ymgymryd â gweithdrefn o'r fath heb drwydded i wneud hynny yn drosedd y gellid ei chosbi â dirwy anghyfyngedig. Yn y pen draw mae’r dull yn cyflawni effaith debyg i'r hyn a ragwelwyd gan y gwelliannau yn y grŵp hwn, ond mewn ffordd fwy cydlynol sy'n cyd-fynd â'r system drwyddedu gweithdrefnau arbennig gyffredinol. Felly, nid wyf yn gallu cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.