Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch, Llywydd. Mae’n amlwg fy mod wedi fy siomi na chafodd y gwelliannau hyn eu cefnogi. Un o'r rhesymau pam fy mod yn siomedig iawn yw fy mod yn credu y dylid defnyddio’r weithdrefn hon am resymau meddygol yn unig. Mae’n ofid gen i y gall rhywun fynd allan a chael tatŵ ar belenni ei lygaid a dioddef cymhlethdodau fel y rhai yr wyf wedi eu rhestru. Rwy’n pryderu hefyd y gallai'r weithdrefn hon ychwanegu yn sylweddol at restrau aros yn ein hysbytai, ac mae gan offthalmolegwyr eisoes restrau aros 18 mis a all arwain at bobl fynd yn ddall. Felly, rwy’n credu na all y weithdrefn hon, os bydd cyfle iddi wneud fel y myn fel yr ydym yn ei ganiatáu—gan ei gadael yn ddewisol yn hytrach nag am resymau meddygol yn unig—ond ychwanegu at hynny. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn, yn yr achos hwn, yw bod hynny’n cael ei ailystyried.