Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch i chi, ac rwy’n diolch i Angela Burns am gyflwyno’r gwelliannau yn y grŵp hwn. Rwy’n cydnabod y bwriad sydd wrth wraidd y gwelliannau ac o'r un farn y dylai gwella a diogelu iechyd a lles ein pobl ifanc fod yn flaenllaw mewn polisi cyhoeddus ar iechyd yng Nghymru. Ac wrth ymateb i bryderon Jenny Rathbone hefyd, byddwn yn cyfeirio'r holl Aelodau at y llythyr a anfonais yn ddiweddar at bob Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd yn amlinellu ein hymagwedd at safonau maeth, mewn ysgolion a hefyd mewn ysbytai, ac yn eu hymestyn i leoliadau blynyddoedd cynnar a lleoliadau cartrefi gofal yn y dyfodol hefyd.
Er hynny, hoffwn, o ran y gwelliant hwn, bwysleisio bod diogelu iechyd plant a phobl ifanc eisoes yn thema ganolog drwy holl gynnwys y Bil a thrwy bolisïau eraill a deddfwriaeth arall. Mae'r Bil yn rhoi cyfres o amddiffyniadau pwysig i blant, er enghraifft drwy gyfyngu ar ysmygu mewn mannau fel tir ysgol a meysydd chwarae cyhoeddus, a thrwy ddiogelu plant rhag niwed posibl wedi ei achosi gan dyllu mewn rhannau personol o’r corff. Hefyd, bydd pwyslais hirdymor ar asesiadau o effaith ar iechyd yn ffordd bwysig arall o sicrhau bod iechyd a lles plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu yn y dyfodol.
Er fy mod yn gwerthfawrogi’r bwriadau da y tu ôl i’r gwelliannau hyn, credaf eu bod yn anaddas am sawl rheswm. Mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynnu bod corff cyhoeddus yng Nghymru yn cydweithio ag eraill i gyflawni ei amcanion a hefyd yn adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wneir o ran cyflawni ei amcanion. Ymysg yr amcanion y dylai’r cyrff cyhoeddus a restrir yng ngwelliant Angela Burns eu hystyried ac adrodd arnyn nhw mae materion iechyd cyhoeddus sy'n berthnasol i bobl ifanc, fel gordewdra, maeth ac iechyd meddwl. Byddai'r newidiadau hyn felly, i bob pwrpas, yn dyblygu gofynion sydd mewn deddfwriaeth arall. Mae elfennau o'r gwelliannau hyn hefyd yn ymddangos eu bod yn dyblygu gwaith arall sy'n cael ei ddwyn ymlaen yn y Bil hwn—er enghraifft drwy’r strategaeth gordewdra genedlaethol a fydd yn cael ei datblygu o ganlyniad i’r gwelliannau y cytunwyd arnynt yn gynharach y prynhawn yma.
Mae'r gwelliannau i’r strategaeth gordewdra genedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth ar atal gordewdra a lleihau cyfraddau gordewdra yng Nghymru, a byddai hyn yn cynnwys—ond heb ei gyfyngu i—gyfraddau gordewdra ymhlith pobl ifanc. Yn ogystal â hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun iechyd plant ar gyfer disgrifio meysydd blaenoriaeth cenedlaethol y dylai gwasanaethau iechyd fod yn ymdrin â nhw i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rhagwelir y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyn diwedd y flwyddyn, a bydd adroddiad ar gynnydd yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol. Bydd y gwaith pwysig hwn yn darparu ffordd arall o gyflawni effaith gwelliannau hyn, ac yn darparu cyfeiriad strategol mewn ystyr ehangach nag y byddai’r gwelliannau hyn yn ei gyflawni.
Yn olaf, o ran canlyniadau, mae ystod o fecanweithiau ar waith yng Nghymru eisoes sy’n ein galluogi ni i fonitro’r tueddiadau o ran iechyd a lles pobl ifanc a phlant. Er enghraifft, mae adroddiadau blynyddol y prif swyddog meddygol a gwahanol arolygon yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni yn hyn o beth. Felly, gan gymryd yr holl bethau hyn gyda'i gilydd, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn mewn perygl o ddyblygu peth o'r gwaith presennol ac arfaethedig heb ategu gwerth ychwanegol. Am y rhesymau hyn nid wyf yn gallu cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn ac rwy’n gofyn i’r Aelodau eu gwrthod.