Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 10 Mai 2017.
Wel, Llywydd, mae’r Aelod yn iawn: mae’r buddsoddiad sylweddol hwn, yn wir, wedi darparu adeilad ysgol o’r radd flaenaf i ddysgwyr yn Ysgol Uwchradd Islwyn. Mae’r amgylchedd dysgu newydd yn darparu’r cyfleusterau gorau i’r disgyblion, ac yn rhoi’r cyfle gorau iddynt wneud y gorau o’u potensial. I’r athrawon yn yr ysgol, mae’n darparu llwyfan iddynt ysgogi gwell canlyniadau addysgol. Deallaf y bydd y disgyblion yn symud i’r ysgol ar ddechrau mis Gorffennaf, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cyfle i weld drosof fy hun y gwahaniaeth y bydd yr adeilad ysgol newydd yn ei wneud i gyfleoedd dysgu’r gymuned honno.