Mercher, 10 Mai 2017
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno Bagloriaeth Cymru? OAQ(5)0117(EDU)
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth addysgol sy’n cael ei ddarparu i blant o deuluoedd sydd yn y lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(5)0113(EDU)
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro? OAQ(5)0114(EDU)
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cryfderau addysg alwedigaethol ymysg pobl ifanc 14-16 oed? OAQ(5)0125(EDU)
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio technolegau digidol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru? OAQ(5)0118(EDU)
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i’r broses o dderbyn disgyblion i ysgolion ym Mhowys o fis Medi 2017? OAQ(5)0121(EDU)
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adeiladau ysgolion yn Islwyn? OAQ(5)0119(EDU)
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd? OAQ(5)0115(EDU)
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu hanes yn ysgolion Cymru? OAQ(5)0116(EDU)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r effaith a gaiff ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OAQ(5)0037(CG)
2. Beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o’r effaith a gaiff adroddiad y cyngor cyfiawnder ar ehangu amrywiaeth farnwrol ar Gymru? OAQ(5)0034(CG)
3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o ran a oes gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau yng Nghymru? OAQ(5)0036(CG)
4. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r goblygiadau cyfreithiol i Gymru yn sgil ymchwiliad 2008 Comisiwn yr UE i arferion gwrth-gystadleuol gan y diwydiant...
5. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynghylch datganoli y gyfundrefn gyfiawnder? OAQ(5)0038(CG)[W]
6. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ynglŷn ag effaith deddfwriaeth Ewropeaidd ynglŷn â llygredd awyr ar Gymru? OAQ(5)0039(CG)[W]
Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw’r cwestiynau amserol, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Simon Thomas.
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop ynghylch torri rheolau dŵr glân yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghilfach Tywyn ger Llanelli?...
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth? TAQ(5)0130(EDU)[W]
Datganiadau 90 eiliad yw’r eitem nesaf ar yr agenda. Jayne Bryant.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl gan Aelodau unigol, o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar ddatganoli plismona. Rydw i’n galw ar Steffan Lewis i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Mae’r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl Plaid Cymru ar breifateiddio’r GIG. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig hwn,...
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Caroline Jones i gyflwyno’r pwnc y mae wedi’i ddewis.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth chweched dosbarth yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia