Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch, Dai. Mae hanes yn bwnc gorfodol yn y cwricwlwm cenedlaethol i bob dysgwr yng nghyfnodau allweddol 2 a 3. Bydd hanes yn cael ei gynnwys ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, a bydd hyn yn rhoi cyfle newydd inni sicrhau y bydd y platfform hanes yn cynnwys dimensiwn Cymreig gwell a phersbectif rhyngwladol.