Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 10 Mai 2017.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ganolfan cyngor ar bopeth mewn gwirionedd drwy ariannu cyngor a chymorth drwy asiantaethau cynghori amrywiol. Wrth gwrs, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau cymorth mewn materion galwedigaethol yw drwy fod yn aelod o undeb llafur mewn gwirionedd, ac wrth gwrs, ymddengys bod Llywodraeth y DU yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn edrych ar ddeddfwriaeth sy’n rhwystro ac yn cyfyngu ar rôl a gweithrediad undebau llafur. Mae’n rhaid i mi ddweud nad yw’r maes gwaith hwn erioed wedi cael ei gydnabod yn briodol gan Lywodraeth y DU na’r Blaid Geidwadol.