Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch iddo am ei ateb. Mae amodau cyflogaeth camfanteisiol yn bla difrifol ar yr economi fodern, ac mae dod o hyd i ffordd o wahardd cyflogaeth gamfanteisiol yn flaenoriaeth absoliwt i ni ar y meinciau hyn. Rwy’n croesawu ymrwymiadau gan Blaid Lafur y DU i ddefnyddio pwerau a gedwir yn San Steffan i wahardd cyflogaeth gamfanteisiol ledled y DU.
O ystyried ei ateb ynglŷn â chymhwysedd y lle hwn, beth yw ei farn ynglŷn ag ymdrechion Plaid Cymru i atodi diwygiadau i ddeddfwriaeth arall na all fynd i’r afael â’r malltod hwn o ddifrif, ac sy’n peryglu’r ddeddfwriaeth honno, hyd yn oed os yw hynny’n sicrhau pennawd da i Blaid Cymru?