<p>Contractau Dim Oriau </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:27, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, er mwyn helpu i brofi’r cwestiwn canolog ynglŷn â chymhwysedd, efallai y gall Llywodraeth Cymru geisio cynnig cyngor ac arweiniad, wrth gwrs, fel rydych newydd sôn, Cwnsler Cyffredinol. Os felly, pa statws sydd i hynny o ran diffyg cydymffurfio, a beth yw eich barn ynglŷn â’r ffaith fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, tan yr wythnos diwethaf, yn ôl fy set ddiwethaf o ffigurau, yn cyflogi bron i 350 aelod o staff ar gontractau dim oriau? A ydych yn credu bod hynny’n cydsynio â’r math o genhadaeth sydd gennych yn erbyn defnydd annheg o’r contractau hynny?