Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 10 Mai 2017.
Nid oes unrhyw anghysondeb. Mae’n rhaid ystyried unrhyw set o amgylchiadau lle cynigir darn o ddeddfwriaeth neu ddiwygiad yng ngoleuni’r cymhwysedd deddfwriaethol sydd gennym mewn gwirionedd. Credaf mai dyna’r pwynt a wneuthum yn fy ateb cyntaf, sef ein bod yn ystyried yr amgylchiadau a’r cyd-destun ffeithiol penodol. Ac yng ngoleuni hynny, penderfynir ar gymhwysedd.