Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 10 Mai 2017.
Wel, bob blwyddyn, mae’r gwasanaethau iechyd cenedlaethol ledled y DU yn colli miliynau o bunnoedd o ganlyniad i’r ffaith fod rhai cwmnïau fferyllol yn torri cyfreithiau cystadlu Ewropeaidd a domestig. Rydym yn gweithio’n agos ac yn effeithiol iawn gyda’r Adran Iechyd, a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, sy’n rhannu ein diddordeb yn y materion hyn, i adennill ein colledion, a lle ceir sail dros roi camau cyfreithiol ar waith.