Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 10 Mai 2017.
Wel, rydych yn tynnu sylw at fater pwysig iawn. Ac wrth ateb y cwestiwn hwnnw mor llawn ag y gallaf, credaf fod angen i mi fod yn ochelgar iawn ynglŷn â sensitifrwydd cyfreithiol a dyletswyddau cyfrinachedd i’r llys ac i drydydd partïon eraill, y bydd yr Aelod yn eu deall, ac y mae’n rhaid i mi eu parchu. Felly, mae’n debyg, wrth ateb eich cwestiwn, nid wyf am wneud unrhyw gyfeiriad penodol at unrhyw achosion penodol a ddygwyd gerbron neu a setlwyd, na nodi unrhyw gwmnïau unigol, neu achosion cyfreithiol sydd ar y gweill, neu achosion posibl, ac mae llawer ohonynt. Serch hynny, rydych yn tynnu sylw at fater pwysig iawn a materion o ddiddordeb clir i’r cyhoedd, lle mae problemau amlwg sydd angen eu datrys yn rhan o drafodaethau Brexit.
Yn 2008, fel y nodwch yn eich cwestiwn, lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd ymchwiliad i edrych ar amodau gwrth-gystadleuol posibl yn y sector fferyllol. Cyhoeddodd y comisiwn ei adroddiad terfynol ym mis Gorffennaf 2008. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau manwl y comisiwn, ac yn argymell ffyrdd o wella mynediad cyflym i gleifion at feddyginiaethau. A daw prif ganfyddiadau’r adroddiad, sydd wedi’u cofnodi’n gyhoeddus, i’r casgliad ei bod yn cymryd gormod o amser i gyffuriau generig gyrraedd y farchnad, fod llai o feddyginiaethau arloesol yn cyrraedd y farchnad, a bod arferion rhai cwmnïau cyffuriau penodol yn cyfrannu at y sefyllfa hon.
Mae’n amlwg o benderfyniadau’r comisiwn a’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fod ymddygiad rhai cwmnïau penodol yn y sector fferyllol yn wrth-gystadleuol, ac y gallai hyn achosi colledion ariannol i Weinidogion Cymru, i’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru ac i’r GIG ehangach yn y DU, ac yn wir, ledled Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r adrannau iechyd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ymchwilio i achosion o’r fath. Pan fo ymddygiad gwrth-gystadleuol yn achosi colledion i Weinidogion Cymru a’r GIG yng Nghymru, cymerir camau cyfreithiol priodol i adennill colledion o’r fath. Gallaf gadarnhau bod Gweinidogion Cymru wedi bod yn llwyddiannus mewn nifer o achosion drwy sicrhau setliadau.
Gall natur draws-Ewropeaidd y gweithgarwch gwrth-gystadleuol hwn gan rannau o’r diwydiant fferyllol arwain at golledion enfawr. Mae’n fater a gofnodwyd yn gyhoeddus fod lefelau rhai o’r dirwyon yn adlewyrchu hyn. Er enghraifft, mae camau a gymerwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd wedi arwain at ddirwyon, mewn un achos o €427 miliwn am dorri rheolau gwrth-ymddiriedaeth yr UE, ac mewn achosion eraill am gamddefnyddio statws goruchafol o fewn y farchnad; €180 miliwn mewn achos arall; mewn achosion eraill, €10 miliwn a €5.5 miliwn. Yn sicr, symiau enfawr a sylweddol. Mae gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd bwerau cyfochrog â rhai’r comisiwn i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gystadleuol yn y DU, a gall osod ei sancsiynau ei hun. Mewn un achos, gosododd ddirwy o £45 miliwn. Mae effaith ariannol bosibl yr ymddygiad hwn yn enfawr, ac os nad eir i’r afael ag ef, gall arwain at gost ddiangen o ddegau a channoedd o filiynau o bunnoedd i’r GIG, ac mae’r GIG yn ysgwyddo cyfran o hynny.
Felly, mae’n faes lle mae Llywodraeth Cymru yn weithgar iawn, ar y cyd â’n cymheiriaid cyfatebol, ledled y DU, yn yr Adran Iechyd, a’r Llywodraethau datganoledig. Bydd sicrhau strategaeth ôl-Brexit yn bwysig iawn, er mwyn sicrhau nad ydym o dan anfantais wrth fynd i’r afael â gweithgarwch gwrth-gystadleuol. Er gwaethaf pwerau domestig yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ar hyn o bryd, nid yw’n glir os bydd y gallu i ddibynnu ar ymchwiliadau a phenderfyniadau’r Comisiwn Ewropeaidd, fel rydym wedi’i wneud yn y gorffennol, yn parhau, neu sut y byddant yn parhau. Yn fy marn i, mae diddordeb cyffredin clir yng Nghymru, gweddill y DU ac awdurdodau Ewrop i barhau i fynd i’r afael â’r materion rhyngwladol cymhleth hyn gyda’n gilydd.