5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:03, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch i gynnig y cynnig heddiw gyda fy nghyd-Aelodau Mike Hedges, Sian Gwenllian a Julie Morgan. Mae ein cynnig mewn tair rhan: yn gyntaf, nodi bod plismona wedi’i ddatganoli i ddwy genedl ddatganoledig arall y DU; yn ail, galw am ddatganoli plismona i Gymru—yr unig genedl lle nad yw wedi cael ei ddatganoli; ac yn drydydd, mynegi’r farn ei bod yn well cydgysylltu meysydd plismona arbenigol penodol ar lefel y DU.

Caiff anomaledd Cymru, wrth gwrs, ei ddrysu ymhellach gan y ffaith fod pwerau dros blismona bellach wedi’u datganoli i Fanceinion, gydag ethol eu maer metropolitanaidd cyntaf, ac eto mae’r broses o ddatganoli plismona i Gymru yn parhau i fod yn rhwystredig o ddisymud. Er gwaethaf consensws pellgyrhaeddol yn y Senedd hon, nid oes gan San Steffan unrhyw gynlluniau i drosglwyddo pwerau dros blismona i Gymru. Roedd yn siomedig na chafodd ei gynnwys yn Neddf Cymru 2014 na Deddf Cymru 2017, er ei fod yn un o argymhellion comisiwn trawsbleidiol Silk yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. Cafwyd dau gyfle deddfwriaethol i weithredu ac ni wnaed unrhyw gynnydd.

Fodd bynnag, nid pwynt o egwyddor gyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae’n gwneud synnwyr perffaith i benderfyniadau’n ymwneud â’n holl wasanaethau brys gael eu gwneud ar y lefel genedlaethol. Ar hyn o bryd plismona yw’r unig wasanaeth brys nad yw wedi cael ei ddatganoli, ac eto mae plismona modern yn galw am gryn dipyn o orgyffwrdd rhwng gwasanaethau cyhoeddus a meysydd cyfrifoldeb datganoledig eraill. Wrth gwrs, eisoes mae’n rhaid i’r heddlu weithio’n agos ochr yn ochr â chydweithwyr iechyd ac addysg. Er bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd, ceir tystiolaeth y gellid gwella cydweithrediad hyd yn oed ymhellach pe bai’r pwerau i wneud y penderfyniadau strategol i’w cael yma yn y wlad hon.

Mae’r cynnig trawsbleidiol heddiw yn nodi agwedd synhwyrol tuag at ddatganoli plismona. I’r rhan fwyaf o bobl yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw’r gwasanaethau heddlu y maent yn fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â hwy o ddydd i ddydd. Yr hyn y mae pobl ei eisiau yw plismona cymunedol, nid yn unig y syniad traddodiadol o’r plismon ar y stryd, ond gwasanaeth heddlu sy’n meddu ar wybodaeth leol a’r gallu i ymateb i anghenion y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Nid yw’r gyllideb ar gyfer plismona cymunedol wedi’i chlustnodi mwyach ac er bod yn rhaid i heddluoedd warantu isafswm o blismona yn y gymdogaeth, mae’r ffordd y caiff hyn ei gyflawni’n amrywio’n fawr o un gwasanaeth heddlu i’r llall mewn gwirionedd. Ar un adeg roedd gan bob ward swyddog ward a oedd yn gyfrifol am adeiladu perthynas â chymunedau a chynyddu ymddiriedaeth yn yr ardal leol, ond rwy’n credu bod llawer o bobl yn teimlo fel pe bai’r cysylltiad hwnnw’n cael ei golli, a phlismona cymunedol effeithiol yn seiliedig ar wybodaeth gydag ef.

Mae’r adroddiad ‘Cyflwr Plismona’ diweddaraf gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn amlinellu eu pryder fod plismona yn y gymdogaeth yn cael ei erydu. Ond gyda heddluoedd yn profi toriadau o 22 y cant, ar gyfartaledd, yng nghyllid y Llywodraeth rhwng 2010 a 2015, a llawer yn dal i weld eu cyllidebau gweithredol yn parhau i grebachu, mae heddluoedd wedi gorfod ymateb drwy ddiswyddo gweithwyr. Canfu adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi fod rhai heddluoedd wedi’i chael yn anodd ymateb i’r lleihad yn lefel yr adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae ymatebion tymor byr, wedi’u cynllunio’n wael, i bwysau uniongyrchol ar y gyllideb yn rhoi pobl sy’n agored i niwed mewn perygl difrifol o gael eu niweidio mewn rhai heddluoedd, a chaiff nifer fawr o droseddau eu diystyru i bob pwrpas yn hytrach na dod o hyd i gasgliad boddhaol i’r dioddefwr a’r gymuned.

O safbwynt polisi, byddai datganoli plismona i Gymru yn rhoi’r gallu i flaenoriaethu plismona cymunedol ac ymgorffori’r egwyddor honno ar draws y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Byddai yna fudd ariannol hefyd i gyd-fynd â’r dyhead polisi hwnnw. Yn ôl cyfrifiadau Plaid Cymru, pe bai Cymru’n cael ei thrin fel endid plismona cydradd â’r gwledydd datganoledig eraill, byddai heddluoedd Cymru dros £25 miliwn y flwyddyn yn well eu byd, gan y byddai Barnett yn gymwys. Pe bai fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio i ariannu ein heddluoedd yn unol â’r boblogaeth, byddai’n arwain at gynnydd sylweddol yn eu cyllidebau.

Fel y nodwyd yn y cynnig, ceir elfennau o blismona arbenigol, megis gwrth-frawychiaeth, lle mae cydgysylltu ledled y DU yn gwneud synnwyr perffaith. Gyda’r materion hyn, lle y ceir elfen ryngwladol yn aml, cyrff sy’n gweithredu ar draws y wladwriaeth sydd fel arfer yn arwain ac yn cydgysylltu, yn enwedig pan fo’r rhain yn berthnasol i waith y gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth. Gellir meddwl am y Swyddfa Ymchwiliadau Ffederal yn yr Unol Daleithiau, neu’r Bundespolizei yn yr Almaen, er enghraifft. Gydag unrhyw wasanaeth brys, mae angen sicrhau cydweithrediad bob amser ar draws ffiniau cenedlaethol, wrth gwrs. Yn wir, mae hynny eisoes yn wir am y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaethau tân ac achub rhwng Cymru a Lloegr.

O ran plismona, mae cymorth ar y cyd wedi bodoli ers cryn dipyn o amser a buasai, wrth gwrs, yn berthnasol os a phan fydd plismona’n cael ei ddatganoli i Gymru. Ar yr ynysoedd hyn, mae cymorth ar y cyd wedi’i ymgorffori yn y berthynas rhwng y gwahanol awdurdodaethau eisoes. Yn Iwerddon, lle y ceir ffin ryngwladol i bob pwrpas, mae Deddf Awdurdodaeth Droseddol 1975 yng Ngogledd Iwerddon a Deddf Cyfraith Trosedd (Awdurdodaeth) 1976 yn y Weriniaeth yn caniatáu i bob awdurdodaeth drin ac ymdrin ag ystod benodol o droseddau a gyflawnwyd yn yr awdurdodaeth arall fel pe bai wedi digwydd yn eu hawdurdodaeth eu hunain.

I gloi, Llywydd, mae datganoli plismona’n ddymunol o safbwynt polisi a chydgysylltu er mwyn adfer plismona cymunedol a sicrhau mwy o gydweithio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Byddai datganoli plismona o fudd ariannol i Gymru, lle byddai difidend datganoli yn ein galluogi i fuddsoddi mwy i wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae datganoli plismona yn gadarn yn weithredol, fel y mae bron unrhyw wladwriaeth arall yn y byd yn ei brofi, ac mae eisoes yn amlwg yn yr awdurdodaethau plismona gwahanol ar yr ynysoedd hyn. Bydd pleidlais gadarnhaol o’r Cynulliad hwn heddiw yn alwad glir ar Lywodraeth nesaf y DU i fynd i’r afael â’r anomaledd diangen hwn.