Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 10 Mai 2017.
Dim amser. Maent wedi mynegi pryder wrthyf yr wythnos hon y byddai cael Llywodraeth Cymru’n rheoli cyllidebau plismona yn arwain at arian yn trylifo i’r de, a dywedasant y byddent yn hoffi gwybod a oes awydd yn Llywodraeth Cymru i uno’r heddluoedd yng Nghymru—argymhelliad a wrthodwyd nifer o flynyddoedd yn ôl. Fel y dywedasant, mae daearyddiaeth a chysylltiadau cyfredol gyda gwahanol heddluoedd yn Lloegr yn gwneud y cysyniad o Heddlu Cymru gyfan yn un anodd iawn—