Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl drawsbleidiol hon. Rwyf wedi bod yn fodlon iawn i roi fy enw ar y cynnig hwn. Rwy’n credu ei bod yn ddirgelwch llwyr pam na chafodd plismona ei ddatganoli yn y Bil Cymru diweddaraf, ac rwy’n credu mai dyna un o’r prif resymau pam fod datganoli yn dal i fod yn fusnes anorffenedig. Rwy’n siŵr y bydd yna adeg pan gaiff plismona ei ddatganoli, ond yn anffodus, ni ddigwyddodd gyda’r cyfle hynod o dda hwn.
Fel y dywedodd Steffan Lewis yn ei gyflwyniad, mae plismona wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly pam nad yw Cymru yn gymwys i gyflawni plismona? Gallaf glywed yng nghyfraniad Mark Isherwood fod ganddo farn mor isel o allu’r Cymry i ddarparu gwasanaethau yn eu gwlad eu hunain fel ei fod yn credu na ellir ymddiried ynom yma gyda phlismona. Rwy’n credu bod dweud y math hwnnw o beth yn gryn feirniadaeth.
Os edrychwch ar rannau eraill o Loegr, rhoddwyd mandad uniongyrchol ar gyfer plismona i faer Llundain yn 2011. Mae gan y maer rôl bwysig, ar y cyd â’r Ysgrifennydd Cartref, yn penodi comisiynydd heddlu’r Met, yn craffu ar blismona, ac ef sy’n llunio’r strategaeth blismona yn Llundain. Mae gan Gynulliad Llundain rôl hefyd yn craffu ar blismona yn Llundain, yn yr un modd ag y gallai’r Cynulliad hwn ei wneud pe bai plismona wedi’i ddatganoli. Rwy’n credu y byddai hynny’n bolisi llawer mwy cydlynol. Ac wrth gwrs, cawsom etholiad y meiri metro yn ddiweddar iawn.
Cafodd Manceinion, sydd bellach â phŵer dros blismona, ei chrybwyll sawl gwaith. Ond mae Llywodraeth y DU wedi cytuno hefyd i roi mwy o bwerau dros gyfiawnder troseddol a rheoli troseddwyr i Fanceinion. Bydd gan Fanceinion fwy o ran mewn cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer llysoedd lleol ac wrth gomisiynu gwasanaethau rheoli troseddwyr ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr. Rwy’n falch fod Manceinion yn cael hyn, ond beth am Gymru? Mae Cymru’n wlad, ac nid oes gennym y pwerau hyn. Felly, rwy’n credu ei fod yn ddirgelwch llwyr. Rydym hefyd yn gwybod bod yna saith—. Rydym hefyd yn gwybod bod yna chwech o etholiadau eraill wedi bod i ethol meiri metro, ac un arall i ddod. Dros amser, bydd pwerau’r meiri metro, rwy’n siŵr, yn cynyddu, fel sydd wedi digwydd yn Llundain. Mewn cyferbyniad â Chymru, mae’r Bil datganoli a sefydlodd y meiri metro yn ddeddfwriaeth fwriadol o amhenodol sy’n caniatáu ar gyfer datganoli unrhyw beth bron—tai, iechyd, lles, plismona, a mwy.
Felly, y cwestiwn mawr yw: beth sydd o’i le ar Gymru? Mae’n ymddangos o ddifrif fod rhyw rwystr yn y canol nad yw’n cydnabod rhesymeg pur datganoli plismona i Gymru. Nid oedd unrhyw broblem wrth drosglwyddo’r pŵer dros y gwasanaeth tân yn ystod sesiwn gyntaf y Cynulliad, pan gafodd ei gynnig i’r Cynulliad, fel rwy’n deall; nid wyf yn credu bod y Llywodraeth hon wedi gorfod gofyn amdano hyd yn oed. Ac yn amlwg, mae’r gwasanaeth ambiwlans wedi cael ei ddatganoli fel rhan o’r gwasanaeth iechyd. Felly, mae hyn yn golygu bod dau o’r tri gwasanaeth brys eisoes wedi’u datganoli i Gymru, felly nid yw’n gwneud synnwyr peidio â datganoli’r trydydd. Mae’r tri gwasanaeth eisoes yn gweithio gyda’i gilydd i raddau helaeth, ond byddai’n sicr yn gwneud synnwyr gweithredol i gael y tri gwasanaeth dan reolaeth wleidyddol Llywodraeth Cymru.
Felly, un o’r prif resymau y dylem ei gael: mae’r pwerau wedi’u datganoli i leoedd eraill. Ail reswm: mae gennym ddau o’r tri gwasanaeth brys wedi’u datganoli eisoes. Ac wrth gwrs, rheswm pwysig arall yw’r modd y caiff yr heddlu eu hariannu yng Nghymru, oherwydd cânt eu hariannu gan gymysgedd o gyllid y Swyddfa Gartref, cyllid Llywodraeth Cymru, a chyllid y dreth gyngor. Yn ei maniffesto ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad, ymrwymodd y Blaid Lafur i ariannu 500 yn ychwanegol o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Wrth gwrs, mae’r rhain wedi cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn gan y cyhoedd dros y pum mlynedd diwethaf. Hefyd, gyda’n haddewid etholiad cyffredinol yn awr ar gyfer yr etholiad sydd i ddod, bydd 853 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yng Nghymru. Mae’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyhoedd yn teimlo’n ddiogel ar y strydoedd, a bod yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar lefel leol yn rhannau allweddol o’r gymuned leol.
· Maent hefyd yn ymwneud llawer yn awr gyda phobl sy’n agored i niwed. Mae’r gwaith o blismona troseddau y mae’r heddlu’n ei wneud yn llawer llai bellach na’r gweithgareddau cymunedol y maent yn ymwneud â hwy—gweithio gyda phobl hŷn, gweithio gyda phobl ifanc. Heddiw, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cawsom dystiolaeth gan unigolyn a ariannir ar y cyd gan yr heddlu ac iechyd y cyhoedd. Dyma sut y bydd pethau yn y dyfodol—cydweithio gyda’n gilydd. Yn olaf, roeddwn yn awyddus i ddweud, os edrychwch ar enghraifft o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, er enghraifft, megis y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, y dull partneriaeth o drechu ac atal cam-drin, sydd—. Yn amlwg, mae trechu cam-drin domestig yn un o’r heriau mwyaf sydd gennym. Mae’n gwbl hanfodol fod hyn yn cael ei wneud drwy ddull partneriaeth, ac nid oes amheuaeth o fath yn y byd yn fy meddwl y byddai hyn yn gwella pe bai’r cyfrifoldeb gwleidyddol dros blismona yn nwylo’r Cynulliad.