5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:26, 10 Mai 2017

Er gwaethaf beth yr ydym ni wedi ei glywed o un cyfeiriad y prynhawn yma, mae yna gonsensws cyffredinol yng Nghymru y dylid datganoli heddlua i Gymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion. Rydw i am ganolbwyntio ar ddwy ddadl pam mae’n gwneud synnwyr i ddatganoli i Gymru.

Mae plismona effeithiol yn golygu perthynas effeithiol ac agos efo’r gwasanaethau datganoledig yng Nghymru, ac mi fyddai datganoli’r heddlu yn adlewyrchu yn llawer gwell yr amgylchiadau sydd yn bodoli yng Nghymru, ac mi fyddai fo’n gwella’r plethiad angenrheidiol rhwng yr holl wasanaethau brys a’r gwasanaethau cyhoeddus. Ac, yn y pen draw, mi fyddai hynny’n gwella’r gwasanaethau, ac yn y pen draw un, mi fyddai gwella’r gwasanaethau yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru—rhywbeth, gobeithio, y mae pawb yn y Siambr yma yn ei ddeisyfu.

A dyma gyflwyno dadl arall nad ydym ni wedi ei chlywed cyn belled y prynhawn yma. Mi fyddai datganoli’r heddlu hefyd yn gwella atebolrwydd. Roedd comisiwn Silk yn canfod bod y sefyllfa bresennol yn anfoddhaol, gan nodi bod llawer o gyllid yr heddlu’n dod o ffynonellau datganoledig, er gwaethaf y ffaith bod polisi strategol a materion yr heddlu yn cael eu penderfynu yn San Steffan. Mae yna ‘mismatch’ yn y fanna. Mae yna gydnabyddiaeth bod atebolrwydd yn broblem, a dyna oedd y tu ôl i greu’r comisiynwyr heddlu a throsedd. Er, mae modd dadlau y dylid, efallai, gael eu gwared nhw os byddai plismona’n cael ei ddatganoli. Nid wyf yn mynd i fynd i’r fanna y prynhawn yma, ond mi fyddai sut yn union y byddai’r atebolrwydd lleol yn digwydd yn fater ar gyfer trafodaeth bellach. Ond, yn sicr, mae hyn yn rhoi cyfle inni feddwl am ddulliau newydd o gryfhau’r atebolrwydd sydd fawr ei angen.

Felly, o ran gwella’r plethiad angenrheidiol rhwng yr heddlu a’r holl wasanaethau cyhoeddus, ac er mwyn gwella atebolrwydd yr heddlu, mae’n gwneud synnwyr datganoli’r heddlu.

Dwy ddadl yn unig—rydych chi wedi clywed dadleuon eraill hefyd, ac mae yna lawer mwy o resymau a llawer mwy i ddadlau yn ei gylch i greu’r achos dros ddatganoli heddlua i Gymru. Diolch yn fawr iawn i Steffan Lewis, Mike Hedges, a Julie Morgan am ddod â hwn gerbron heddiw, ac rydw i’n mawr obeithio y cawn ni o leiaf fwyafrif teilwng iawn o blaid y cynnig. Diolch.