Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 10 Mai 2017.
Hoffwn gyfrannu’n fyr at y ddadl hon gan Blaid Cymru heddiw fel Aelod sy’n gwasanaethu etholaeth lle mae teithio ar draws y ffin i gael gwasanaethau arbenigol penodol yn ddigwyddiad arferol, boed yn daith i Clatterbridge neu Christie’s am driniaeth oncoleg arbenigol, ysbyty plant Alder Hey yn Lerpwl, neu hyd yn oed y cyswllt hirsefydlog rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ysbyty Stoke-on-Trent i gael triniaeth trawma mawr. Fel y cyfeiriodd Aelodau eraill yn flaenorol, sefydlwyd ysbytai fel Ysbyty Iarlles Caer i wasanaethu cleifion ar y ddwy ochr i’r ffin. Heb y niferoedd o ochr Cymru, ni fyddai gwasanaethau ysbyty yng Nghaer yn gynaliadwy nac yn hyfyw, ac rwy’n falch fod GIG Cymru, o dan Lywodraeth Lafur Cymru wedi aros yn ffyddlon i weledigaeth ei sylfaenydd, Nye Bevan, yn rhydd o farchnadeiddio a phreifateiddio. Ond yr hyn sy’n glir yw nad ydym yn bodoli na’n gweithredu ar wahân, ac mae cynnig heddiw yn briodol yn ei bryder clir ynglŷn â’r goblygiadau cyllidebol a achosir gan breifateiddio cynyddol y GIG yn Lloegr, yn wir, a’r ad-drefnu o’r brig i lawr gwerth £3 biliwn. Mae’r preifateiddio a’r darnio cynyddol hwn yn creu goblygiadau nid yn unig i’n gallu canlyniadol i ariannu’r GIG yng Nghymru—gwasanaethau iechyd yng Nghymru—yn briodol, ond mae hefyd yn destun pryder i mi o ran y goblygiadau i ddarpariaeth a safon y gwasanaethau y mae fy etholwyr sy’n teithio dros y ffin i ogledd-orllewin Lloegr yn eu cael.
Rwy’n deall bod yna brotocol trawsffiniol wedi’i sefydlu rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr, gyda’r nod o ddarparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd trawsffiniol, a bod Llywodraeth Cymru yn parhau â’i gwaith a’i chydweithrediad â’r GIG yn Lloegr i fynd i’r afael â’r ddarpariaeth gofal iechyd yn ardal y ffin. Fodd bynnag, tynnodd etholwyr fy sylw at achosion lle nad yw cleifion o Gymru sy’n defnyddio gwasanaethau dros y ffin wedi cael gwybodaeth deg, gawn ni ddweud, yn niffyg gair gwell, mewn perthynas ag amseroedd aros a gwasanaethau gan unigolion a sefydliadau yn y GIG yn Lloegr, ac maent wedi teimlo weithiau fel pe bai’r cleifion sy’n dod o Gymru i gael triniaeth yn Lloegr yn cael eu rhoi ar ris is na’r rhai sy’n byw yn Lloegr ac sy’n defnyddio’r un gwasanaethau.
Felly, gyda’r cytundebau a’r trefniadau cyllido hyn ar waith, nid fel hyn y dylai fod, yn sicr, ac mae ychydig o achosion yn unig yn ychydig o achosion yn ormod. A phan dynnais sylw at hyn o’r blaen mewn cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet, gwn ei fod yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â hyn, ac i orffen, hoffwn apelio ar eraill a Llywodraeth Cymru, wrth barhau’r ymrwymiad i ddarparu’r gofal iechyd o’r ansawdd gorau posibl a chyllido teg i bobl Cymru, i roi’r un gwasanaeth o’r radd flaenaf ag y byddai disgwyl i unrhyw un arall ei gael i fy etholwyr i ac eraill sy’n defnyddio gwasanaethau yn Lloegr.