Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno dadl ar y pwnc hwn, gan ei fod yn caniatáu i mi ailadrodd ymrwymiad parhaus y Llywodraeth Cymru hon dan arweiniad Llafur Cymru i’r egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus ac sydd am ddim yn y man darparu. Rydym yn cytuno â’r rhai a gynigiodd y cynnig. Yn wir, roedd diwygiadau 2009 yng Nghymru yn cadarnhau egwyddorion sefydlol Nye Bevan drwy gael gwared ar y trefniadau prynwr-darparwr sy’n seiliedig ar y farchnad a gweithredu gwasanaeth iechyd integredig wedi’i gynllunio. A bellach, mae Simon Stevens wedi tynnu sylw at y gwasanaeth iechyd integredig wedi’i gynllunio hwnnw fel ffordd ymlaen ar gyfer y GIG yn Lloegr. Maent yn symud oddi wrth y rhaniad prynwr-darparwr; maent yn cydnabod ei fod yn aneffeithlon ac yn ddi-fudd. Fodd bynnag, ni allai’r gwrthgyferbyniad rhwng y systemau presennol yng Nghymru a Lloegr fod yn gliriach.
Fel y soniwyd eisoes, mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 ar gyfer Lloegr yn gweld iechyd fel nwydd, yn amodol ar ddarpariaethau caffael a chystadleuaeth, gan gynnwys sefydlu Monitor fel y rheoleiddiwr economaidd. Wrth wneud hynny, gwnaeth Llywodraeth y DU ar y pryd ddewis gweithredol i agor y farchnad ddarpariaeth gofal iechyd i unrhyw ddarparwr sy’n awyddus, gan gynnwys darparwyr gofal iechyd preifat. Mae’r ffigurau a ddyfynnodd Angela Burns ar wariant cyhoeddus, neu wariant preifat yn hytrach, yma yng Nghymru, yn cyfateb i lai nag 1 y cant o gyllideb y GIG, ac mae’r gwasanaethau contract—. Ond nid ydym yn rhoi’r gwasanaethau hynny i ddarparwyr allanol. Ond fe welwch hynny mewn trosglwyddiadau ar raddfa eang yn y system yn Lloegr: o wasanaethau ambiwlans di-argyfwng i wasanaethau iechyd rhyw yn Lloegr, mae’r rhain yn cael eu rhoi allan ar raddfa eang i ddarparwyr preifat. Nid yw hynny, ac ni fydd hynny, yn digwydd yma yng Nghymru.
Ni ellir gwadu bod Deddf 2012 wedi arwain at gynyddu preifateiddio yn Lloegr. Mae cyfrifon yr Adran Iechyd ar gyfer 2015-16 yn dangos bod y sector preifat wedi darparu gwerth dros £8.7 biliwn o wasanaethau’r GIG, neu dros 7.5 y cant o gyllideb y GIG yn Lloegr. Ac mae canlyniadau sylweddol i breifateiddio graddol o’r fath, gan gynnwys cynnydd mewn costau cyfreithiol a chostau trafodion yn y system yn Lloegr gyda chwmnïau preifat, ond mae darparwyr GIG hefyd yn cyflwyno achosion llys os ydynt yn colli ymarfer caffael ar gyfer contractio gwasanaethau, a hefyd y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth , Julie Morgan—neu Jenny Rathbone yn hytrach—ac eraill am yr effaith ar y gyllideb yma yng Nghymru hefyd.
A dylai pawb ohonom fod yn bryderus hefyd ynglŷn â system sy’n fwy seiliedig ar yswiriant. Mae’n golygu taliadau ymlaen llaw am ofal sylfaenol. Er enghraifft, yn Iwerddon, os ydych am weld meddyg teulu, gallwch ddisgwyl talu mwy na €50 am ymgynghoriad yn unig, ac mae ffi go iawn i’w thalu wedyn am y feddyginiaeth hefyd. Mae’n newid y ffordd y mae pobl yn ymddwyn a hygyrchedd meddyginiaeth o ansawdd uchel. Mae’n newid yr ymddiriedaeth yn y bobl hynny hefyd. Os ydym yn mynd i weld ewyllys wleidyddol yn cael ei chynnal—ailadrodd y gwirionedd fod gwasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus yn werth da am arian ac yn gynaliadwy, os oes ewyllys wleidyddol i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny’n galw am newid agwedd sylweddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ond er gwaethaf y preifateiddio diymwad yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fabwysiadu ymagwedd bragmatig tuag at lifau trawsffiniol, fel yr amlinellodd nifer o siaradwyr yn y ddadl hon, gan gynnwys Hannah Blythyn cyn i mi siarad. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu’r gofal gorau i bawb sydd ei angen. Wrth gwrs, mae ein dull o gydweithio rhwng y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn canolbwyntio ar anghenion ein poblogaethau. Anghytundeb bach â Dr Lloyd, ond rwy’n deall bod mwy na 20,800 o drigolion Lloegr wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, ond bod ymhell dros 14,000 o drigolion Cymru wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr—realiti llifau trawsffiniol. Ac wrth gwrs, rydym yn gweld y rheini mewn gofal iechyd arbenigol rhwng Cymru a Lloegr ac o Loegr i Gymru. Disgrifiodd Hannah Blythyn lif ei hetholwyr i ogledd-orllewin Lloegr, ond wrth gwrs, fel y crybwyllodd Dai Lloyd, mae ysbyty Treforys—yr uned losgiadau—yn ganolfan arbenigol, nid yn unig i Gymru ond i dde-orllewin Lloegr yn ogystal. Mae canolfan ganser Felindre yng Nghaerdydd yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i’r rhan fwyaf o Gymru, yn ogystal â thrin cleifion a gyfeirir yno o Loegr yn ogystal. Mae’r llif yn mynd i’r ddau gyfeiriad. Rydym am weld hynny’n cael ei gynnal. Ein nod, fel Llywodraeth, yw sicrhau bod pob claf yn cael gofal iechyd o ansawdd uchel ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn. Weithiau, gwasanaethau a ddarperir ar draws y ffin yn Lloegr fydd y rheini. Ar adegau eraill, bydd yn digwydd yma, y gwasanaeth yng Nghymru. Ceir llifau cleifion hirsefydlog i Loegr i gael gofal ysbyty i’r bobl sy’n byw yn nwyrain ein gwlad. Mae gan fyrddau iechyd lleol hyblygrwydd i gyfeirio cleifion am driniaeth allan o’u hardal lle mae angen clinigol ac amgylchiadau’r claf yn cyfiawnhau hynny neu lle na chaiff gwasanaethau eu darparu yma yng Nghymru.
Nawr, i droi at y pwynt a wnaed yn y cynnig am yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn cydnabod bod mwyafrif pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael. Rydym wedi bod yn glir y bydd y penderfyniad democrataidd yn cael ei barchu. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros fod yn waeth eu byd, i weld niwed yn cael ei wneud i’n heconomi neu i’n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, rydym yn benderfynol o sicrhau dyfodol cadarnhaol i Gymru ar ôl Brexit, ac rydym wedi bod yn glir mai ein blaenoriaeth ar gyfer y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yw mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Rydym wedi gosod ein safbwynt ehangach yn fanwl yn y Papur Gwyn ar y cyd gyda Phlaid Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i—.