Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae pwrpas y ddadl yma, a phwrpas y cynnig, yn glir, rwy’n meddwl, ac yn eithaf syml. Rwy’n credu bod y Ceidwadwyr yn eiddgar i drosglwyddo rhagor o rym a chyllideb dros y gwasanaeth iechyd i’r sector preifat. Mae tystiolaeth yn dangos hynny. Mi oedd y ffigurau—. Roedd yr 8 y cant o’r gyllideb a oedd yn mynd i’r sector breifat, gyda llaw, yn eithrio’r trydydd sector. Ond, hyd yn oed os nad yw’r Ceidwadwyr yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi NHS yng Nghymru, mae eu penderfyniadau gwariant nhw fel plaid yn Llundain yn effeithio yn uniongyrchol arnom ni. Rwy’n gobeithio ein bod ni wedi gallu egluro hynny heddiw.
Ar ben hynny, wrth gwrs—a thra’r wyf yn croesawu cefnogaeth Llafur i’r cynnig yma— mae methiannau Llywodraeth Lafur Cymru i gynnal gwasanaethau, rwy’n meddwl, o’r safon y mae staff yr NHS yng Nghymru a chleifion yng Nghymru yn ei haeddu yn gwthio mwy a mwy o bobl at y sector preifat. Mi gawsom araith gan Angela Burns yn dweud na ddylai Plaid Cymru fod yn gul a gwrthwynebu gwasanaethau trawsffiniol. Nid wyf yn hollol siŵr o ble y cafodd hi hynny. Ni wnes i, yn sicr, grybwyll hynny. Nid yw’r cynnig sydd o’m blaen i fan hyn yn crybwyll hynny. Yn wir, mi wnaeth Dr Dai Lloyd, yn ei araith o, bwysleisio pa mor dda y mae gwasanaethau trawsffiniol yn gweithio yn y ddau gyfeiriad. Mi roddaf gyfle i chi, os dymunwch chi, egluro yn union pam yr aethoch chi i lawr y trywydd hwnnw. Fel arall, mi wnaf i gario ymlaen. Mi soniodd am wasanaethau rhagorol yn Southampton. Mi fuaswn i yn gyrru fy mhlentyn i’r lleuad am y gofal gorau, ac mi fyddwn i yn ei gymryd fel sarhad personol pe baech yn awgrymu, rhywsut, ei fod yn well gen i ddim gwasanaeth yn hytrach na gwasanaeth oddi ar dir Cymru. Chi sy’n siarad nonsens drwy awgrymu’r fath beth am gleifion Cymru.
Ond—ac rwy’n gobeithio’n arw y buasai’r Ceidwadwyr yn cytuno efo fi ar hyn—ni ddylai tanberfformiad yr NHS yma, nac unrhyw agenda breifateiddio, danseilio’r gwasanaethau y dylem ni allu eu disgwyl i gael eu darparu yng Nghymru. O edrych ar eich rhestr chi, yn eich gwelliant chi, o wasanaethau yr ydych chi yn credu y dylem eu cydnabod fel bod yn Lloegr, a ydych chi wir yn credu y dylem eistedd yn ôl a derbyn nad yw plant efo problemau iechyd meddwl yn gallu cael eu trin yn agos at eu cartref? Yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl—[Torri ar draws.] Mae’r Aelod yn dweud na wnaeth hi ddweud hynny. Mi wnaf i ddarllen o’ch gwelliant chi, sef y dylai’r Cynulliad gydnabod dibyniaeth cleifion Cymru ar wasanaethau arbenigol yn Lloegr’, gan gynnwys ‘gwasanaethau iechyd meddwl i blant’. Os ydych chi yn meddwl y dylem eistedd yn ôl a derbyn hynny yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, cywilydd arnoch chi. Mae gen i ofn bod bwriad a bygythiad y Ceidwadwyr yn glir. Cefnogwch y cynnig heddiw.