<p>Llygredd Aer</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 16 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:33, 16 Mai 2017

A wnewch chi, felly, gadarnhau y bydd yn fwriad gan Lywodraeth Cymru bod y parthau awyr glân yma yn gostwng llygredd awyr, yn arbennig ymysg y gronynnau mân iawn, y PM10s, sydd yn mynd yn ddwfn i’r ysgyfaint, ac sy’n arbennig o beryglus i blant a phobl ifanc sydd yn cerdded, er enghraifft, neu’n seiclo i’r ysgol? Ac a fydd, felly, dargedau penodol y tu fewn i’ch cynlluniau chi ar gyfer parthau awyr glân?