1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mai 2017.
1. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru? OAQ(5)0592(FM)
Rydym ni’n mynd i'r afael â llygredd aer mewn nifer o ffyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli ansawdd aer lleol, rheoleiddio diwydiant, y drefn gynllunio a hybu teithio llesol.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rydym ni’n gwybod bod llygredd aer yn lladd mwy o bobl na’r nifer sy’n cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffyrdd, ac mae hyd yn oed Llywodraeth y DU yn cyfaddef mai dyma’r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU. Fe’i galwyd yn argyfwng iechyd y cyhoedd gan grŵp trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae'r ardaloedd rheoli ansawdd aer hyn yn cynnwys ardal o Heol Casnewydd, lle mae gennyf ddim llai na thair ysgol gynradd ar ei hyd, ac maen nhw’n mewnanadlu lefelau gwenwynig o aer ar hyn o bryd. Nid yw’r cynllun diweddaraf gan y Torïaid a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn yn ddim mwy na phapur dewisiadau. Nid oes unrhyw beth ynddo hyd sydd hyd yn oed yn debyg i strategaeth. Un o'r dewisiadau yw cael parthau aer glân y mae'n rhaid i gerbydau sy'n llygru dalu i fynd i mewn iddynt. Yn amlwg, dyma’r peth a fyddai'n cael yr effaith fwyaf ar leihau llygredd, ond mae'r Torïaid wedi trosglwyddo’r baich i awdurdodau lleol, gan gynnwys rhwystrau. Nid ydyn nhw’n cael gwneud unrhyw beth o’r fath tan, er enghraifft, y bydd yr holl fysiau wedi cael eu trosi o ddiesel i ynni glanach. Roeddwn i’n meddwl tybed—
Mae angen i chi ddod i gwestiwn.
[Yn parhau.]—beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddehongli o'r cynllun hwn a beth mae'n ei weld fel ei chyfrifoldeb i sicrhau bod cymunedau fel fy un i yn cael eu rhyddhau o’r peth ofnadwy hwn.
Wel, mae'n bwysig nodi nad yw rhai o'r dulliau ar gyfer gwella ansawdd aer, fel mesurau cyllidol sy'n ymwneud â cherbydau diesel, wedi'u datganoli. Mae lefel yr ymrwymiad i gymryd camau ar lefel Llywodraeth y DU yn aneglur ar hyn o bryd, ond, fel tystiolaeth o'n hymrwymiad i wneud popeth y gallwn i wella ansawdd aer ar lefel genedlaethol Cymru, rydym ni wedi dweud yng nghynllun y DU y byddwn, o fewn 12 mis, yn ymgynghori ar fanylion cynnig ar gyfer fframwaith parth aer glân ar gyfer Cymru.
Wel, rwy’n cymeradwyo'r astudiaeth honno, oherwydd, os edrychwch chi ar yr Almaen, mae parthau aer glân wedi bod yn hynod lwyddiannus yn eu dinasoedd nhw, gan leihau allyriadau huddygl o bibellau gwacau o fwy na 50 y cant yn Berlin, er enghraifft. Ond mae’r polisïau hyn yn gofyn am newid ymddygiad, annog beicio ac ati, mynediad at ardaloedd o ddinasoedd a pharcio am ddim i gerbydau glanach, a gwell defnydd o seilwaith presennol, h.y. ail-ddynodi rhai o'n llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Ac, yn wir, rwy’n meddwl y dylem ni fod â’r uchelgais i ddatgan bod Caerdydd yn barth aer glân, felly rwy'n eich annog i wneud hynny cyn gynted â phosibl.
Wel, wrth gwrs, rydym ni’n annog awdurdodau lleol i greu mwy o lwybrau beicio. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn dystiolaeth o hynny, ac, wrth gwrs, y cynnig ar gyfer metro, a fydd yn arwain at deithiau gwell a chyflymach ar gludiant cyhoeddus, gan gymryd pobl allan o'u ceir, tra bydd y metro ei hun wrth gwrs yn lleihau allyriadau o'r cerbydau diesel i gyd presennol. Gallaf ddweud, pan fydd tystiolaeth yn y dyfodol yn dangos yn eglur y byddai parthau aer glân yn arwain at gydymffurfiad cyn mesurau eraill, ac yn yr amser byrraf posibl, y byddwn yn nodi sut i sicrhau cyflwyniad parthau o'r fath yn effeithiol.
A wnewch chi, felly, gadarnhau y bydd yn fwriad gan Lywodraeth Cymru bod y parthau awyr glân yma yn gostwng llygredd awyr, yn arbennig ymysg y gronynnau mân iawn, y PM10s, sydd yn mynd yn ddwfn i’r ysgyfaint, ac sy’n arbennig o beryglus i blant a phobl ifanc sydd yn cerdded, er enghraifft, neu’n seiclo i’r ysgol? Ac a fydd, felly, dargedau penodol y tu fewn i’ch cynlluniau chi ar gyfer parthau awyr glân?
Wel, mae hwn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, ynglŷn â pharthau awyr glân, a bydd hynny’n rhan o’r ymgynghoriad a fydd yn cymryd lle, fel sydd wedi cael ei nodi yn y cynllun Prydeinig.