Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 16 Mai 2017.
Mae chwaraeon proffesiynol yn dod â nifer o fanteision pwysig i Gymru, yn enwedig i Abertawe. Wrth gwrs, gwn ei bod yn sicr y bydd yr Aelod yn gofyn am Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a’u hymgyrch lwyddiannus eleni i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod chwaraeon proffesiynol yn gatalydd nid yn unig i gynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn chwaraeon, ond gall hefyd godi ysbryd pobl mewn dinasoedd a gwledydd, ac, wrth gwrs, roedd pencampwriaeth Ewrop y llynedd yn enghraifft o sut y gall hynny ddigwydd yng Nghymru.