1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mai 2017.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd chwaraeon proffesiynol i Gymru? OAQ(5)0597(FM)
Mae chwaraeon proffesiynol yn dod â nifer o fanteision pwysig i Gymru, yn enwedig i Abertawe. Wrth gwrs, gwn ei bod yn sicr y bydd yr Aelod yn gofyn am Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a’u hymgyrch lwyddiannus eleni i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod chwaraeon proffesiynol yn gatalydd nid yn unig i gynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn chwaraeon, ond gall hefyd godi ysbryd pobl mewn dinasoedd a gwledydd, ac, wrth gwrs, roedd pencampwriaeth Ewrop y llynedd yn enghraifft o sut y gall hynny ddigwydd yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? A gaf i dynnu sylw at bwysigrwydd chwaraeon proffesiynol o ran hyrwyddo hunaniaeth ardal a chreu cyfoeth yn yr economi? Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd Dinas Abertawe yn aros yn uwch gynghrair Lloegr, i economi dinas-ranbarth Bae Abertawe, i dwristiaeth yn ninas-ranbarth Bae Abertawe, ac i adnabod enw Abertawe. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Abertawe ar aros yn yr uwch gynghrair, sydd o fudd i Gymru gyfan?
Gwnaf, mi wnaf. Mae'n hynod bwysig bod gennym ni dîm sydd nid yn unig yn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr, ond yn aros yno. Mae hefyd yn bwysig nodi, wrth gwrs, yr ymgyrch lwyddiannus gan glwb Casnewydd i aros yng Nghynghrair 2 Lloegr. Gwelsom i gyd y golygfeydd pan sgoriwyd y gôl olaf, funud cyn diwedd y cyfnod arferol. Gallaf weld yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd—a’r Aelod dros Orllewin Casnewydd hefyd rwy’n siŵr—yn wên o glust i glust wrth i mi sôn am hynny. Ond, mae'n wir i ddweud bod chwaraeon proffesiynol yn gatalydd economaidd hynod bwysig. Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, bod presenoldeb Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi bod yn hynod bwysig o ran creu twristiaeth yn yr ardal, o ran gwella cyfradd ymwelwyr â gwestai ac, wrth gwrs, o ran gwella gwariant gan ymwelwyr â'r ddinas, a thu hwnt.
Prif Weinidog, mae hyfforddiant ar lawr gwlad mewn pêl-droed, mor aml yn hanfodol i ddatblygu chwaraewyr ifanc i lefel fwy proffesiynol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae tri o'n pedwar heddlu yng Nghymru yn ymchwilio i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol hanesyddol ar y lefel hon, gyda chadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Clarke, yn cyfeirio at hwn fel yr argyfwng mwyaf ym myd pêl-droed. Prif Weinidog, yn y gogledd, ceir sawl cyhuddiad o natur hanesyddol y teimlir y mae’n rhaid ymchwilio iddynt. Mae Steve Walters o’r Offside Trust, ac, yn wir, un o fy etholwyr fy hun, y Cwnstabl Mike Smith, y mae’r ddau ohonynt wedi dioddef, yn arwain galwadau i Gymdeithas Bêl-droed Cymru lansio ymchwiliad llawn i'r mater hwn. A wnewch chi weithio gyda'ch Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi'r galwadau hynny a, thrwy wneud hynny, darparu amgylchedd lle gall plant sy'n ceisio cyflawni eu huchelgeisiau yn y gamp, i lefel fwy proffesiynol, wneud hynny'n ddiogel?
Rydym ni’n gwybod bod amgylchedd diogel yn hanfodol i blant a phobl ifanc os ydynt am fwynhau chwaraeon. Rydym ni’n gwybod bod safonau ar un adeg yn llawer mwy llac nag y maen nhw erbyn hyn. Materion i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac i'r heddlu yw’r rhain yn bennaf. Ond mae'n hynod bwysig y gellir rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl, y bydd unrhyw honiadau yn y gorffennol neu, yn wir, y presennol, yn cael eu hymchwilio’n llawn, fel y gallwn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn parhau i gael amgylchedd mwy diogel nawr ac yn y dyfodol.
Ro’n i’n falch iawn bod y Cynulliad yma’n unfrydol yr wythnos diwethaf wedi cefnogi gwelliant Plaid Cymru i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a fydd yn golygu y bydd cael strategaeth gan y Llywodraeth i daclo gordewdra rŵan ar wyneb y Bil hwnnw. Ac rwy’n ddiolchgar i Aelodau pob plaid a’r Llywodraeth am gefnogi hynny. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i’n clybiau a’n sefydliadau chwaraeon proffesiynol ni, yn ogystal â chwaraeon llawr gwlad, allu bwydo mewn rŵan i greu y strategaeth yna, er mwyn sicrhau bod gennym ni strategaeth a all yn wirioneddol fynd i’r afael â’r broblem fwyaf, o bosib, sy’n ein hwynebu ni o ran iechyd y cyhoedd?
Mae hynny’n iawn, achos, wrth gwrs, er bod chwaraeon yn y gymuned yn hollbwysig, er mwyn sicrhau bod pobl yn actif yn y gymuned, hefyd wrth gwrs mae timau proffesiynol yn gallu rhoi enghraifft, yn enwedig i bobl ifanc. Maen nhw’n gweld eu harwyr, wrth gwrs, yn dod i siarad â nhw ac yn dweud pa mor bwysig yw hi i fyw yn iach. Ac, felly, mae yna rôl hollbwysig i glybiau proffesiynol ynglŷn â sicrhau ein bod ni’n dod i afael ar ordewdra.
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe a Chlwb Pêl-droed Casnewydd ill dau yn ganolbwynt pwysig yn eu cymunedau. A bydd ysbryd cymunedol yn cynyddu yn y lleoedd hynny o ganlyniad i lwyddiant y timau hynny. Y broblem sydd gennym ni weithiau gyda chlybiau pêl-droed proffesiynol yw eu bod yn tueddu i fod mewn perchnogaeth dramor erbyn hyn. Mae dau o'r tri chlwb pêl-droed yng nghynghrair Lloegr—[Torri ar draws.] Wel, na, nid yw’n mynd i fod yn beth UE. Weithiau, maen nhw’n ymbellhau o’u sylfaen cefnogwyr, tra, ar yr un pryd, maen nhw hefyd yn asedau pwysig yn y gymuned. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth Cymru helpu i'w cadw yn eu swyddogaeth fel asedau yn y gymuned.
Wel, gwnaeth Abertawe hynny yn llwyddiannus, wrth gwrs. Caerdydd, a grybwyllwyd, rydym ni eisiau eu gweld yn ôl yn yr Uwch Gynghrair y flwyddyn nesaf. Cyn bo hir, bydd yn rhaid i mi fynd o gwmpas Cymru a chrybwyll sawl clwb, a dymuno llwyddiant iddyn nhw i gyd. Wrecsam—ie, a phob clwb pêl-droed arall yng Nghymru, ac, yn wir, unrhyw glybiau chwaraeon, sy’n chwarae ar unrhyw lefel, pob lwc ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Ond mae'n iawn ei bod yn hynod bwysig bod cefnogwyr yn cael y cyfle i fod yn berchen ar eu clybiau. Mae Bayern Munich, os cofiaf yn iawn, yn eiddo i'r cefnogwyr. Mae'n fodel sy'n cael ei ddefnyddio’n eithaf rheolaidd yn yr Almaen. Ac rwy’n poeni, lle ceir diffyg ymrwymiad gan rai perchnogion—nid wyf yn sôn am Gaerdydd; mae’r berchnogaeth yno wedi bod yn sefydlog ers cryn amser—ond, mewn rhai clybiau, mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, a yw’r perchnogion wedi ymrwymo’n ddigonol i'r clybiau yn y ffordd y gallai cefnogwyr wneud hynny? Gwelsom yn Ninas Abertawe atgyfodiad y clwb hwnnw oherwydd ymroddiad ac arian cefnogwyr a oedd yn fodlon cyfrannu’r arian hwnnw, ac, o ganlyniad, wrth gwrs, mae’r clwb hwnnw wedi’i wreiddio’n gryf iawn yn ei gymuned.