Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 16 Mai 2017.
Dyna’r wyf i eisiau ei weld. Rwyf wedi ymdrin â Theresa May; ni welaf unrhyw dystiolaeth o gwbl o arweinyddiaeth gref ganddi hi. Ni all ateb cwestiwn plaen. Mae arweinyddiaeth yn cynnwys cymryd rhan mewn dadleuon arweinyddion. Mae nifer ohonom ni sy'n gwybod hynny yn y Siambr hon. Arweinyddiaeth yw mynd allan a siarad â phobl, yn hytrach na mynd i ddigwyddiadau wedi’u rheoli a chwestiynau wedi’u rheoli. Dyna beth yw arweinyddiaeth go iawn, a cheir sawl un ohonom ni yn y Siambr hon sydd wedi cael profiad o hynny ac sy’n gwybod mai dyna beth yw arweinyddiaeth. Rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni rywun sy'n barod i ymgysylltu â'r cyhoedd, nid rhywun sy'n cau ei hun i ffwrdd oddi wrth y cyhoedd.