1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 16 Mai 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. A gaf i groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yr wyf yn falch o’i gweld yn ôl yn y Siambr? Dymunaf yn dda i chi, gobeithio, wrth wella o’r godwm a gawsoch yn ddiweddar, Ysgrifennydd y Cabinet.
Prif Weinidog, dywedasoch ddiwedd mis Ebrill fod angen i Jeremy Corbyn brofi ei hun os oedd eisiau dod yn Brif Weinidog y DU ar ddiwedd yr etholiad cyffredinol hwn. Mae'r berthynas rhwng Prif Weinidog Cymru neu'r Alban neu Ogledd Iwerddon a Phrif Weinidog y DU yn berthynas bwysig iawn, ac, yn wir, yn berthynas rhynglywodraethol hefyd. Yr wythnos diwethaf, yn lansiad yr ymgyrch, ni wnaethoch grybwyll ei enw. Yr wythnos diwethaf, pan ryddhawyd y maniffesto i'r wasg, gwnaed datganiad i’r wasg gennych i ddweud—[Torri ar draws.] Gwnaed datganiad i’r wasg gennych i ddweud nad eich maniffesto chi oedd hwn. Yna, o fewn awr neu ddwy, cafodd ei olygu a’i newid. A ydych chi’n credu mai Jeremy Corbyn fydd Prif Weinidog y DU ar 9 Mehefin?
Dyna’r wyf i eisiau ei weld. Rwyf wedi ymdrin â Theresa May; ni welaf unrhyw dystiolaeth o gwbl o arweinyddiaeth gref ganddi hi. Ni all ateb cwestiwn plaen. Mae arweinyddiaeth yn cynnwys cymryd rhan mewn dadleuon arweinyddion. Mae nifer ohonom ni sy'n gwybod hynny yn y Siambr hon. Arweinyddiaeth yw mynd allan a siarad â phobl, yn hytrach na mynd i ddigwyddiadau wedi’u rheoli a chwestiynau wedi’u rheoli. Dyna beth yw arweinyddiaeth go iawn, a cheir sawl un ohonom ni yn y Siambr hon sydd wedi cael profiad o hynny ac sy’n gwybod mai dyna beth yw arweinyddiaeth. Rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni rywun sy'n barod i ymgysylltu â'r cyhoedd, nid rhywun sy'n cau ei hun i ffwrdd oddi wrth y cyhoedd.
Mae’n debyg, Prif Weinidog, nad rhoi ateb plaen yw’r ddadl gryfaf o’ch safbwynt chi, i fod yn deg, fel y bydd unrhyw un sydd wedi gofyn cwestiwn i chi yn y Siambr hon yn dyst iddo. Ond, yn y maniffesto a gyhoeddwyd gan y Blaid Lafur heddiw, mae'n sôn am ddiddymu ffioedd dysgu, ac eto dywedodd eich Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yr wythnos diwethaf nad ffioedd dysgu yw’r broblem mewn gwirionedd, ond costau byw. Dywedodd hefyd, trwy lefarydd y wasg, nad Jeremy Corbyn fyddai Prif Weinidog y DU. Sut ar y ddaear allwch chi gael unrhyw syniadau cydgysylltiedig yn eich Llywodraeth pan fo gennych chi ddiffyg cysylltiad o'r fath rhwng y neges sydd yn y maniffesto a'r ymrwymiadau gwario yr ydych chi’n eu llofnodi bob un dydd? Onid yw'n wir, os bydd pobl yn pleidleisio dros Jeremy Corbyn ar 8 Mehefin, y bydd gennych chi glymblaid o anhrefn yn hytrach nag arweinyddiaeth gref a sefydlog Theresa May?
Wel, rwy’n meddwl tybed a yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod Theresa May yn arweinydd cryf, o ystyried y sibrydion yr ydym ni wedi eu clywed am ei ddadethol, a dadethol gweddill ei grŵp [Chwerthin.] Pan ofynnwyd iddi ar y radio a oedd yn ei gefnogi ef a'i swydd, dywedodd mai Andrew R.T. Davies yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Wel, syfrdanol o wir fel ffaith, ond heb ddangos fawr o hyder ynddo. Rydym ni’n falch o'r maniffesto yr ydym ni’n sefyll ar ei sail. Mae'n cynnig gobaith mawr i’n pobl. Un peth yr ydym ni yn ei wybod yw bod adolygiad Diamond wedi rhoi myfyrwyr yng Nghymru o flaen y rhai yn Lloegr, a'r hyn yr ydym ni’n ei wybod, wrth gwrs, os bydd y Torïaid yn ennill yr etholiad cyffredinol, wrth gwrs, yw y bydd myfyrwyr yn cael eu taro yn galetach fyth. Byddan nhw’n cael eu gorfodi i dalu hyd yn oed mwy. Felly, un peth yr ydym ni’n ei wybod yw na fydd myfyrwyr byth mewn sefyllfa lle y byddan nhw’n well eu byd o dan y Ceidwadwyr.
Yn yn ôl yr arfer, rydych chi’n teilwra’r dyfyniad, ac aeth yn ei blaen i ddweud gwaith pa mor dda yr wyf yn ei wneud [Chwerthin.] Ond, os edrychwch chi ar y cynnig ar 8 Mehefin, mae'n gynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw i ddiddymu tollau pont Hafren a rhoi hwb mawr o £100 miliwn i economi Cymru. £100 miliwn yn erbyn yr anllythrennedd cyllidol yr ydym ni’n ei weld gan y Blaid Lafur y sylwais na wnaeth y Prif Weinidog gytuno ag ef nac ymrwymo iddo heddiw, ac eto eisteddodd yng nghyfarfod y weithrediaeth genedlaethol yr wythnos diwethaf a chododd ei law i wario biliynau o bunnoedd nad oes gan y wlad hon mohonynt. Mae'n ffaith, os ydych chi eisiau cael gwared ar dollau pontydd Hafren a rhoi £100 miliwn i economi Cymru, bod angen i chi bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig, o dan arweinyddiaeth gref a sefydlog Theresa May, yn wahanol i'r glymblaid o anhrefn y bydd Jeremy Corbyn yn ei harwain.
Rwy’n hael tuag at arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy’n awyddus iddo aros fel eu harweinydd—rwy’n awyddus iddo aros fel eu harweinydd; nid yw Theresa May. Felly rwyf yn cynnig hynny iddo. Mae'n iawn, rwyf eisiau iddo aros, ond nid yw Theresa May, ac mae hynny'n anhrefn i chi. Mae'n sefyll yno gyda'r hyfdra—rwy’n credu yw’r gair—i honni mai ei syniad ef a syniad ei blaid ef oedd diddymu tollau pont Hafren. Sawl blwyddyn ydym ni wedi sefyll yn y Siambr hon yn gofyn am derfyn ar dollau pont Hafren? Ers blynyddoedd, dywedodd ei blaid ef wrthym ei fod yn rhy ddrud. Gwelsom amcangyfrifon rhwng £20 miliwn a £120 ond £7 miliwn ydyw erbyn hyn. Rwy'n croesawu eu troedigaeth—rwy’n croesawu eu troedigaeth—ond, yn y pen draw, gadewch i ni fod yn onest, ni fyddai'r Ceidwadwyr wedi diddymu tollau pont Hafren oni bai am y camau cryf a’r safbwynt cryf a gymerwyd gan y Llywodraeth Cymru hon.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Roedd Syr Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid, yng Nghymru ychydig ddyddiau yn ôl ac rwy’n gweld o ddatganiad i'r wasg gan Llafur Cymru ei fod wedi dweud bod trafodaethau Brexit Ceidwadol yn peryglu’r ymgyrch hynod lwyddiannus i recriwtio mwy o feddygon yng Nghymru. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym faint o feddygon ychwanegol o’r UE y mae’r ymgyrch hon wedi llwyddo i’w recriwtio?
Rydym ni’n gwybod bod 5.8 y cant o'n staff meddygol yn dod o'r UE. Rydym ni’n gwybod bod diddordeb o’r DU a thramor. Y gwir yw bod pob un system iechyd yn unrhyw fan yn y byd yn cystadlu mewn marchnad fyd-eang. Mae'n ffolineb meddwl, rywsut, y gall y DU hyfforddi a recriwtio ei holl feddygon ei hun o fewn y DU. Ac felly nid oes neb yn dweud wrthyf i ar garreg y drws, nac wrtho yntau, "Yr hyn sydd ei angen arnom ni, rydych chi’n gweld, yw llai o feddygon a nyrsys o dramor.' Ni ddywedodd neb hynny. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni’n dal i gael ein gweld fel lle croesawgar i gael y gorau a'r mwyaf disglair i weithio yn ein gwasanaeth iechyd.
Rwy’n cytuno â hynny. Y ffigur gwirioneddol yw y recriwtiwyd saith o feddygon ychwanegol eleni, o'i gymharu â'r un ffigur y llynedd—ac ni fydd pob un ohonynt, neu efallai yr un ohonynt, yn wir, wedi dod o'r UE. Felly, mae’n ymddangos bod hyn yn amherthnasol braidd i'r holl gwestiwn o'r trafodaethau Brexit. Ond yr hyn yr oedd yn ymddangos yr oedd Syr Keir Starmer yn ceisio ei wneud oedd meithrin rhyw fath o ofn ym meddyliau'r rhai a allai fod yn agored i’w eiriau, ein bod ni’n mynd i droi meddygon a nyrsys posibl i ffwrdd o'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn gwybod, yn ei galon, bod hwn yn syniad hurt a bod gan Awstralia, er enghraifft, system fewnfudo lem iawn yn seiliedig ar bwyntiau, sy'n cael eu dyfarnu er mwyn llenwi gwahanol fylchau sgiliau yn eu heconomi, a bydd y Deyrnas Unedig yn union yr un fath. Felly, pam na wnaiff y Prif Weinidog gefnogi’r trafodaethau Brexit a cheisio cael llwyddiant, yn hytrach na cheisio bod yn rhwystr i gynnydd drwy'r amser?
Onid yw’n gallu gweld, o ymdrin â’r sefyllfa’n wael, y bydd meddygon a nyrsys yn cael yr argraff nad yw'r DU eu heisiau? Mae yno eisoes. Mae yno eisoes oherwydd nad ymdriniwyd â’r mater o gyd-gydnabod hawliau preswyl eto. Nid oes neb—neb—eisiau gweld pobl ddim yn cael aros yn y DU, na dinasyddion y DU ddim yn cael aros yng ngweddill yr UE. Nid oes neb eisiau hynny, ond nid oes cytundeb arno eto, ac mae'n hynod bwysig bod hynny'n cael ei wneud cyn gynted â phosibl, yn fy marn i, cyn y prif drafodaethau ynghylch Brexit. Ond mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gallu recriwtio o dramor. Fy ofn mawr i yw y bydd gennym ni gap ar fewnfudo bob blwyddyn yn y pen draw, bod cap ym mhob sector, bod dinas Llundain yn cael y gyfran helaeth er mwyn diogelu bancio a chyllid, ac na fyddwn ni, yn y pen draw, oherwydd y cap, yn gallu recriwtio meddygon a nyrsys i Gymru. Rwy’n credu y byddai hynny’n ffordd ffôl o ymdrin â'r mater hwn.
Mae'n annirnadwy y bydd unrhyw gap a gyflwynir yn gweithio yn y fath fodd ag i atal y GIG rhag llenwi bylchau sgiliau, yn enwedig o ran pobl broffesiynol. Ond—[Torri ar draws.] Ond bydd y Prif Weinidog hefyd yn gwybod, ddwy flynedd yn ôl, bod Banc Lloegr wedi cynnal astudiaeth fanwl o effaith mudo ar lefelau cyflogau ar ben isaf y raddfa incwm—pobl fel glanhawyr a gweithwyr gofal a staff gweini yn y gwasanaeth iechyd—a daeth i'r casgliad bod gweithwyr heb sgiliau a lled-grefftus o’r UE a rhannau eraill o'r byd yn mewnfudo heb gyfyngiad yn lleihau cyflogau o ffactor o 2 y cant o’i gymharu â chynnydd o 10 y cant i gyfran y mewnfudwyr yn y sectorau hynny. Felly, yr hyn sy'n digwydd yma mewn gwirionedd yw bod lefelau cyflog yn cael eu cywasgu ar gyfer y bobl sy'n gallu ei fforddio leiaf, er nad oes unrhyw berygl mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r trafodaethau Brexit, i nifer y meddygon a’r nyrsys sy’n cael eu recriwtio o'r tu allan i'r DU.
Wel, na—os oes cap i fod, cap yw cap. Ni allwch chi ddweud, 'Wel, nid yw'r cap yn bodoli ar gyfer proffesiynau penodol.' Ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni, yn fy marn i, ei osgoi. Mae gennym ni 80,000 o ddinasyddion yr UE yng Nghymru, o 3 miliwn o bobl, felly mae'n gyfran fechan iawn o'r boblogaeth. Rwy'n derbyn ei bwynt bod llawer o oedd yn teimlo bod cyflogau wedi cael eu gostwng o ganlyniad. Mae rhan o hynny oherwydd y ffaith y bu methiant llwyr i erlyn ar sail deddfwriaeth isafswm cyflog—dim erlyniadau o gwbl, cyn belled ag y gwn i. Mae'n rhaid i mi ei atgoffa, yn ei blaid flaenorol, iddyn nhw wrthwynebu’r isafswm cyflog, ac, o ganlyniad i hynny, byddai hynny wedi gyrru cyflogau i lawr hyd yn oed ymhellach na nawr. Ceir achosion o gam-fanteisio. Rwyf i wedi clywed hanesion o gam-fanteisio ar ddinasyddion yr UE sy'n dod i Gymru. Mae angen atal hynny ac mae angen ei erlyn, yn yr un modd y dylid erlyn y rheini sy'n ceisio cyflogi pobl islaw’r isafswm cyflog, y bobl hynny sy'n ceisio osgoi deddfwriaeth cyflogaeth, yn ôl y gyfraith, a dylid cryfhau’r gyfraith i sicrhau nad oes neb yn dioddef cam-fanteisio yn y dyfodol. Dyna’n union y byddai Llywodraeth Lafur yn ei wneud yn San Steffan.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, lansiodd ymgyrch lwyddiannus Amser i Newid gynllun arbrofol mewn naw ysgol i fynd i'r afael â gwahaniaethu a stigma iechyd meddwl. Os bydd y cynllun hwn yn llwyddiannus, dylem weld mwy o bobl ifanc yn dod ymlaen i gael cymorth ar gyfer y problemau a allai fod ganddynt. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa arian ychwanegol yr ydych chi wedi ei roi ar gael ar gyfer cwnselwyr ysgol ac ar gyfer hyfforddiant i athrawon ymdrin â’r galw ychwanegol hwn?
Wel, mae gan bob ysgol, wrth gwrs, gwnselydd ysgol, a bydd hi’n gwybod ein bod ni wedi neilltuo arian ar gyfer iechyd a rhoi, rwy’n meddwl, £8.6 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ac rydym ni wedi gweld gostyngiad enfawr i’r amseroedd aros o ran cael apwyntiad o fewn 28 diwrnod.
Nid ydym wedi gweld gostyngiad enfawr i amseroedd aros, Prif Weinidog. Gallwch ddweud yn deg bod amseroedd aros yn ddim gwaeth nag yr oeddent o'r blaen, ond ni allwch ddweud eu bod yn well. Nid yw'n eglur o gwbl beth yw’r canlyniadau gwell hynny o’r gwariant ychwanegol hwn, ond yr hyn yr ydym ni’n ei wybod yw bod nifer y plant sydd angen cwnsela yn cynyddu, ac mae hynny'n beth da, oherwydd, gobeithio, mae’n golygu y gall problemau gael eu hatal cyn iddynt droi’n ddifrifol a bod angen cymorth arbenigol. Fodd bynnag, gwyddom nad oes gan lawer o ysgolion ddigon o gwnselwyr neu athrawon sydd wedi eu hyfforddi i helpu'r disgyblion hynny a allai fod angen cymorth. Hefyd, rydym ni wedi gweld gostyngiad i weithwyr ieuenctid awdurdod lleol—canran syfrdanol o 40 y cant yn y gweithlu hwnnw fel gostyngiad. Mae hyn yn amlwg yn mynd i gael effaith ar ba un a yw’r plant sy'n dioddef problemau iechyd meddwl lefel isel yn mynd i allu cael y cymorth sydd ei angen arnynt, yn enwedig gan fod eich Llywodraeth wedi codi’r trothwy ar gyfer cael mynediad at CAMHS arbenigol. Siaradais yn ddiweddar â rhywun sy'n gweithio gyda’r rhai sy'n gadael gofal, a ddywedodd wrthyf nad ydynt ond yn gallu atgyfeirio pobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad. Nid oes ganddynt unrhyw allu yn y system i weithio ar atal iechyd meddwl. A yw’r sefyllfa honno’n dderbyniol i chi, Prif Weinidog? Pa bryd y gwelwn ni wasanaeth ymyrraeth gynnar, y mae angen mor daer amdano?
Wel, fel y dywedais wrthi o'r blaen, mae cwnselydd ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae byrddau iechyd wedi ymrwymo i gyrraedd y targed 28 diwrnod erbyn diwedd mis Mawrth. Maen nhw wedi cymryd camau breision i leihau'r nifer sy'n aros yn ystod y 12 i 18 mis diwethaf. Un enghraifft: yn Betsi Cadwaladr, rydym ni wedi gweld y ganran o atgyfeiriadau CAMHS sy’n cael eu gweld o fewn 28 diwrnod yn mynd o 21 y cant ym mis Ebrill y llynedd i 84.5 y cant ym mis Chwefror eleni. Mae hynny’n welliant enfawr yn yr amser sydd ei angen i gael apwyntiad cyntaf. Felly, mae'r arian yr ydym ni wedi ei roi i mewn—yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei roi i mewn—i CAMHS, ynghyd â'r cwnsela sydd ar gael mewn ysgolion, yn dwyn ffrwyth.
Rydych chi’n rhoi'r argraff anghywir, Prif Weinidog, oherwydd mae’n wir i ddweud nad yw’r rhestrau aros yn ddim gwaeth nag o'r blaen, ac, ar y cyfan, ni allwch ddweud—. Ni allwch hawlio, yn gyffredinol, ledled Cymru, eu bod nhw’n well. Nawr, mae’n 10 mlynedd—10 mlynedd—ar gyfartaledd cyn i blant a phobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl gael cymorth arbenigol. Dyma'r bobl sy'n debygol o fod y rhai mwyaf sâl, ac sydd hefyd yn costio’r mwyaf o arian i’n gwasanaethau. Nid oedd yn rhaid i bethau ddigwydd fel hyn, bod gennym ni’r math o gynllun ymyrraeth gynnar iechyd meddwl i bobl yn eu harddegau—nad oes gennym ni—y mae ei hangen arnom yn daer. Rydym ni’n gwybod, onid ydym, mai hunan-niweidio yw'r lladdwr mwyaf o ferched yn eu harddegau yn fyd-eang. A ydym ni’n mynd i orfod aros i bobl 16 oed gael y bleidlais cyn i iechyd meddwl ein plant a’n pobl ifanc gael y flaenoriaeth briodol y mae'n ei haeddu?
Wel, mae gan rai ohonom ni blant, ac mae gen i ferch 16 oed, felly rwy'n gwybod y pwysau sy'n bodoli ar bobl ifanc, yn enwedig trwy gyfryngau cymdeithasol. Mae hynny'n rhywbeth nad oedd yn bodoli pan oeddwn i’n 16 oed, ac felly roedd unrhyw fwlio yn aros wrth gatiau'r ysgol ac nid oedd yn tueddu i symud y tu hwnt i hynny. Gwn am rai o'r pethau sy'n cael eu dweud ar-lein, a gwn, pan fo pobl ifanc fwyaf agored i niwed o ran eu hyder, y gallant gael eu heffeithio'n ddwfn iawn gan hynny. Ond mae hi’n rhoi’r—. Ni wnaeth hi wrando ar y ffigurau a roddais iddi. Soniais am Betsi a dywedais, 'Edrychwch, mae canran y CAMHS—
Am y genedl yr wyf i’n sôn.
Wel, gall hi weiddi cymaint ag y mae’n dymuno. Mae hi wedi cael tri chwestiwn eisoes, do. Unwaith eto, mae Betsi yn enghraifft o'r hyn sydd wedi digwydd ledled Cymru. Yn Betsi, mae lefel yr atgyfeiriadau CAMHS a welwyd o fewn 28 diwrnod wedi mynd o 21 y cant i 84.5 y cant ym mis Chwefror. Ni all hi wadu hynny, neu mae hi'n dweud bod y ffigurau'n anghywir. Roedd angen iddyn nhw wella. Roeddem ni’n gwybod bod angen rhoi mwy o arian i mewn, oherwydd y galw ar y gwasanaeth. Dyna'n union yr hyn a wnaethom, ac rydym ni’n cyflawni dros ein pobl ifanc.