Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 16 Mai 2017.
Rydym ni’n gwybod bod 5.8 y cant o'n staff meddygol yn dod o'r UE. Rydym ni’n gwybod bod diddordeb o’r DU a thramor. Y gwir yw bod pob un system iechyd yn unrhyw fan yn y byd yn cystadlu mewn marchnad fyd-eang. Mae'n ffolineb meddwl, rywsut, y gall y DU hyfforddi a recriwtio ei holl feddygon ei hun o fewn y DU. Ac felly nid oes neb yn dweud wrthyf i ar garreg y drws, nac wrtho yntau, "Yr hyn sydd ei angen arnom ni, rydych chi’n gweld, yw llai o feddygon a nyrsys o dramor.' Ni ddywedodd neb hynny. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni’n dal i gael ein gweld fel lle croesawgar i gael y gorau a'r mwyaf disglair i weithio yn ein gwasanaeth iechyd.