<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 16 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:49, 16 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, lansiodd ymgyrch lwyddiannus Amser i Newid gynllun arbrofol mewn naw ysgol i fynd i'r afael â gwahaniaethu a stigma iechyd meddwl. Os bydd y cynllun hwn yn llwyddiannus, dylem weld mwy o bobl ifanc yn dod ymlaen i gael cymorth ar gyfer y problemau a allai fod ganddynt. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa arian ychwanegol yr ydych chi wedi ei roi ar gael ar gyfer cwnselwyr ysgol ac ar gyfer hyfforddiant i athrawon ymdrin â’r galw ychwanegol hwn?