Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 16 Mai 2017.
Wel, mae’r cwmnïau ynni—mae’n rhaid bod unrhyw un sy'n dweud bod y farchnad ynni rywsut o les i ddefnyddwyr yn byw mewn gwahanol fydysawd i'r gweddill ohonom ni. Dro ar ôl tro, mae Llywodraethau wedi cydnabod nad yw'r system bresennol yn gweithio. Mae'n sôn am y 1970au—roedd ynni’n rhatach yn y 1970au, yn gymesur, a chawsom fuddsoddiadau mawr hefyd, fel Dinorwig, pan, gyda'r morlyn llanw, y mae ei blaid ef yn dal her ar y morlyn llanw. Byddai wedi cael ei adeiladu pe byddai hyn wedi bod yn y 1970au. Mae'n sôn am y rheilffyrdd. Digwyddodd y buddsoddiad mawr diwethaf yn intercity ym 1977, gyda chyflwyniad yr 125 o dan Lywodraeth Lafur—o dan Lywodraeth Lafur. Ers hynny, nid ydym wedi cael unrhyw fuddsoddiad mawr yn y brif reilffordd. Rydym ni’n dal i aros am drydaneiddio—ble mae hynny wedi mynd—i Gaerdydd. Rydym ni’n dal i aros amdano. Rydym ni’n dal i aros am drydaneiddio i Abertawe. Ble mae hynny wedi mynd? Dau addewid a wnaed gan y blaid gyferbyn na chyflawnwyd. Rydym ni’n dal i aros i weld ymrwymiad i drydaneiddio rheilffyrdd y gogledd—dim arwydd o hynny eto gan y Ceidwadwyr. Ni allai neb o bosibl ddadlau bod y rheilffyrdd, fel y maent wedi eu cyfansoddi ar hyn o bryd, yn cynnig gwerth am arian; maen nhw’n costio mwy i'r trethdalwr nawr nag yr oeddent pan yr oeddent wedi eu gwladoli, oherwydd y ffordd y cafodd ei wneud. Na, mae angen mwy o realiti cyn belled ag y mae'r Ceidwadwyr yn y cwestiwn, ond yn anad dim arall, mae angen iddyn nhw gyflawni eu haddewidion ar gyfer ynni a rheilffyrdd, ac, yn yr ystyr hwnnw, maen nhw wedi bod yn fethiant llwyr.