1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mai 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a gaiff ei wneud o ran strategaeth economaidd a diwydiannol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0602(FM)
Gwnaf. Rydym ni’n bwriadu cyhoeddi ein dull strategol o greu ffyniant i bawb cyn toriad yr haf.
Wel, diolch i chi am hynna, Prif Weinidog. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd diwydiannau gweithgynhyrchu a pheirianneg, eu cryfderau o fewn economi Cymru. Yn anffodus, mae’n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn cydnabod yr un peth, trwy roi dur tua gwaelod eu blaenoriaethau. Edrychaf ymlaen at strategaeth Llywodraeth Cymru sy’n gwneud yn siŵr bod dur ar y brig. Ond mae angen i ni ddenu mwy o weithgynhyrchu, fel Aston Martin a TVR, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud a dweud y gwir, ac mae angen i ni ddarparu mwy o safleoedd ag ôl troed mwy—25,000 troedfedd sgwâr a mwy—i sicrhau bod y ffatrïoedd hynny yno iddyn nhw ddod i mewn iddynt. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod nifer digonol o adeiladau sy'n cynnig yr ôl troed mawr hwnnw i ddenu mewnfuddsoddiad ym maes gweithgynhyrchu, ond hefyd i ganiatáu i ddiwydiannau presennol ehangu?
Wel, rydym ni’n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr ac eraill i edrych ar adeiladau wrth iddynt ddod ar gael. Gydag Aston Martin, wrth gwrs, yn digwydd bod, roedd yr awyrendy yno, ac roedd hynny’n ddefnyddiol iawn o ran gallu eu denu, ac rydym ni’n gweithio'n agos gyda phob busnes i asesu eu hanghenion o ran ehangu yn y dyfodol. Pan eu bod nhw’n ceisio gwneud hynny, rydym ni wedi gallu gweithio gyda nhw fel rheol er mwyn dod o hyd i adeiladau lle y gallant ehangu.
Prif Weinidog, mae Jeremy Corbyn wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer ymyrraeth ysgubol gan y Llywodraeth yn ein diwydiant, gan gynnwys cymryd rhannau o ddiwydiant ynni Prydain yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus ochr yn ochr â'r rheilffyrdd a'r Post Brenhinol. Dyna'r ymyrraeth fwyaf gan y wladwriaeth yn ein heconomi ers degawdau. A gaf i ofyn a ydych chi’n cefnogi dull Jeremy Corbyn, yr wyf i’n credu’n sicr y byddai'n mynd â Chymru yn ôl i'r 1970au, ac a ydych chi’n cytuno ag arweinydd eich plaid pan ddywed na ellir ymddiried mewn gweithredwyr trafnidiaeth preifat i sicrhau bod budd pennaf teithwyr flaenaf yn eu meddyliau?
Wel, mae’r cwmnïau ynni—mae’n rhaid bod unrhyw un sy'n dweud bod y farchnad ynni rywsut o les i ddefnyddwyr yn byw mewn gwahanol fydysawd i'r gweddill ohonom ni. Dro ar ôl tro, mae Llywodraethau wedi cydnabod nad yw'r system bresennol yn gweithio. Mae'n sôn am y 1970au—roedd ynni’n rhatach yn y 1970au, yn gymesur, a chawsom fuddsoddiadau mawr hefyd, fel Dinorwig, pan, gyda'r morlyn llanw, y mae ei blaid ef yn dal her ar y morlyn llanw. Byddai wedi cael ei adeiladu pe byddai hyn wedi bod yn y 1970au. Mae'n sôn am y rheilffyrdd. Digwyddodd y buddsoddiad mawr diwethaf yn intercity ym 1977, gyda chyflwyniad yr 125 o dan Lywodraeth Lafur—o dan Lywodraeth Lafur. Ers hynny, nid ydym wedi cael unrhyw fuddsoddiad mawr yn y brif reilffordd. Rydym ni’n dal i aros am drydaneiddio—ble mae hynny wedi mynd—i Gaerdydd. Rydym ni’n dal i aros amdano. Rydym ni’n dal i aros am drydaneiddio i Abertawe. Ble mae hynny wedi mynd? Dau addewid a wnaed gan y blaid gyferbyn na chyflawnwyd. Rydym ni’n dal i aros i weld ymrwymiad i drydaneiddio rheilffyrdd y gogledd—dim arwydd o hynny eto gan y Ceidwadwyr. Ni allai neb o bosibl ddadlau bod y rheilffyrdd, fel y maent wedi eu cyfansoddi ar hyn o bryd, yn cynnig gwerth am arian; maen nhw’n costio mwy i'r trethdalwr nawr nag yr oeddent pan yr oeddent wedi eu gwladoli, oherwydd y ffordd y cafodd ei wneud. Na, mae angen mwy o realiti cyn belled ag y mae'r Ceidwadwyr yn y cwestiwn, ond yn anad dim arall, mae angen iddyn nhw gyflawni eu haddewidion ar gyfer ynni a rheilffyrdd, ac, yn yr ystyr hwnnw, maen nhw wedi bod yn fethiant llwyr.
Wel, mae angen syniadau newydd arnom yn sicr pan ddaw i’n strategaeth economaidd, oherwydd nid yw’r hen syniadau wedi gweithio, ydyn nhw? Hynny yw, rydym ni’n dlotach nawr, o gymharu â gweddill y DU, na phan gymerodd Llafur drosodd gyntaf ym 1997 yn San Steffan ac yma yn y Cynulliad yn 1999. Felly, a allai’r Prif Weinidog esbonio pa syniadau newydd sydd gan Lafur i weddnewid ein heconomi? Ac, o ystyried y ffaith eich bod chi wedi bod mewn grym yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd, ac am gyfran helaeth o'r amser yn San Steffan hefyd, beth sy'n eich dal chi’n ôl? Lle mae’r wedi syniadau gweddnewidiol hynny wedi bod tan nawr?
Ble oedd ei blaid ef pan, am bedair blynedd, roedd ei blaid yn gyfrifol am ddatblygu economaidd yng Nghymru? Mae'n anghofio hynny’n gyfleus, wrth gwrs. [Torri ar draws.] Nid ydyn nhw’n hoffi clywed hynny, oherwydd mae’n rhywbeth y byddai’n well ganddynt anghofio amdano, ond mae'n cael ei anghofio’n gyfleus. Wel, holodd am syniadau newydd. Mae tasglu’r Cymoedd yn symud ymlaen gyda syniadau newydd ar gyfer y Cymoedd. Rydym ni’n edrych ar sut yr ydym ni’n datblygu ein hunain o ran presenoldeb rhyngwladol, unwaith eto, gan ein bod ni’n gwybod bod yn rhaid i ni edrych y tu allan, i wledydd newydd, am fuddsoddiad. Mae'r cyswllt awyr i Qatar yn rhan hynod bwysig o ddatblygu ein ffenestr i’r byd. Rydym ni wedi gweld diweithdra yn gostwng i lefel is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a buddsoddiad mawr fel Aston Martin, fel General Dynamics ac fel Tenneco yn dod i Gymru.
Yr her nesaf, wrth gwrs, yw gwella GYC. Mae'n iawn am hynny, ond, yn sicr, cyn belled ag y mae creu swyddi yn y cwestiwn, cyn belled ag y mae ymestyn allan i'r byd yn y cwestiwn, cyn belled ag y mae cael buddsoddiad yn y cwestiwn—ar ôl cael y ffigurau buddsoddiad tramor gorau ers 30 mlynedd y llynedd—mae’r Llywodraeth Cymru hon yn cyflawni.