Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 16 Mai 2017.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Credaf ei bod yn bwysig iawn, am resymau yr wyf yn credu y byddai pob Aelod yma yn eu cydnabod, Prif Weinidog, ein bod ni’n cefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lefel elitaidd a llawr gwlad yng Nghymru. Felly, hoffwn ddychwelyd yn fyr at lwyddiant Clwb Pêl-droed Casnewydd, gan fy mod i’n credu ei fod yn bwysig iawn ar y ddau lefel. Cawsom fachgen lleol, Michael Flynn, fel rheolwr, yn cymryd y tîm drosodd 11 pwynt ar ei hôl hi ar waelod y tabl, yn agos at ddiwedd y tymor, gan weddnewid y sefyllfa’n llwyr gyda gôl ddramatig i ennill y gêm yn 89fed munud gêm olaf y tymor i gadw pêl-droed proffesiynol yng Nghasnewydd ar gyfer y tymor nesaf, gan ddangos pwysigrwydd, rwy’n credu, mewnbwn lleol i’r tîm, ac wrth gwrs mae'n ymddiriedolaeth cefnogwyr.
Byddwn yn cael cyllid Uwch Gynghrair Lloegr nawr ar gyfer gweithgarwch cymunedol a chwaraeon llawr gwlad o amgylch pêl-droed yn y dyfodol—ymhell i'r dyfodol, rwy'n gobeithio—ac ar yr un pryd, rydym ni wedi gweld cyfranddalwyr clwb rygbi Casnewydd yn pleidleisio i Undeb Rygbi Cymru eu cymryd drosodd, a fydd yn cadw rygbi rhanbarthol yng Nghasnewydd, a hefyd yn meithrin y gêm ar lefel llawr gwlad lleol. Felly, rwy’n credu bod chwaraeon proffesiynol a chwaraeon llawr gwlad yn edrych yn gryf yng Nghasnewydd ar hyn o bryd, Prif Weinidog, ac roeddwn i’n meddwl tybed a wnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r holl bobl sy'n rhan o wireddu hynny, ac yn enwedig y cymorth ar lawr gwlad.