1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mai 2017.
8. Pa bolisi y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn i annog a chefnogi llwyddiant ym maes chwaraeon yng Nghymru? OAQ(5)0596(FM)
Mae ein polisïau ar chwaraeon yn cael eu gosod yng nghyd-destun 'Symud Cymru Ymlaen' a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae ein buddsoddiad mewn chwaraeon, drwy Chwaraeon Cymru, yn canolbwyntio ar annog cyfranogiad ymhlith pob oedran a sicrhau bod seilwaith chwaraeon ar waith fel bod athletwyr a chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd talentog yn gwireddu eu potensial.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Credaf ei bod yn bwysig iawn, am resymau yr wyf yn credu y byddai pob Aelod yma yn eu cydnabod, Prif Weinidog, ein bod ni’n cefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lefel elitaidd a llawr gwlad yng Nghymru. Felly, hoffwn ddychwelyd yn fyr at lwyddiant Clwb Pêl-droed Casnewydd, gan fy mod i’n credu ei fod yn bwysig iawn ar y ddau lefel. Cawsom fachgen lleol, Michael Flynn, fel rheolwr, yn cymryd y tîm drosodd 11 pwynt ar ei hôl hi ar waelod y tabl, yn agos at ddiwedd y tymor, gan weddnewid y sefyllfa’n llwyr gyda gôl ddramatig i ennill y gêm yn 89fed munud gêm olaf y tymor i gadw pêl-droed proffesiynol yng Nghasnewydd ar gyfer y tymor nesaf, gan ddangos pwysigrwydd, rwy’n credu, mewnbwn lleol i’r tîm, ac wrth gwrs mae'n ymddiriedolaeth cefnogwyr.
Byddwn yn cael cyllid Uwch Gynghrair Lloegr nawr ar gyfer gweithgarwch cymunedol a chwaraeon llawr gwlad o amgylch pêl-droed yn y dyfodol—ymhell i'r dyfodol, rwy'n gobeithio—ac ar yr un pryd, rydym ni wedi gweld cyfranddalwyr clwb rygbi Casnewydd yn pleidleisio i Undeb Rygbi Cymru eu cymryd drosodd, a fydd yn cadw rygbi rhanbarthol yng Nghasnewydd, a hefyd yn meithrin y gêm ar lefel llawr gwlad lleol. Felly, rwy’n credu bod chwaraeon proffesiynol a chwaraeon llawr gwlad yn edrych yn gryf yng Nghasnewydd ar hyn o bryd, Prif Weinidog, ac roeddwn i’n meddwl tybed a wnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r holl bobl sy'n rhan o wireddu hynny, ac yn enwedig y cymorth ar lawr gwlad.
Yn sicr. Gwelais i'r golygfeydd ar ddiwedd y gêm, y golygfeydd o lawenydd, pan aeth yr ail gôl i mewn yn erbyn Notts County. Yn wir, trydarais ar y pryd. Rwy'n fwy na pharod i longyfarch Clwb Pêl-droed Casnewydd. Rwy'n meddwl bod gan y Dreigiau ddyfodol disglair hefyd—mae angen mwy o sefydlogrwydd ariannol arnynt, ond mae’n ymddangos bod hynny’n dod at ei gilydd. Rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd datblygu chwaraeon. Mae'r ganolfan bêl-droed genedlaethol yng Nghasnewydd, wrth gwrs; mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ei gweddnewid fel sefydliad yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae ganddi erbyn hyn, wrth gwrs, gyfleuster hyfforddi ar waith lle nad oedd un o'r blaen. Ac, wrth gwrs, o ran pwysigrwydd gweithgarwch corfforol unigol, gwn pa mor bwysig yw hyn, a gwn, yn wir, bod yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd wedi treulio'r 18 mlynedd diwethaf yn dweud wrthyf pa mor bwysig ydyw, ac rwyf wedi methu â dilyn ei gyngor.