<p>Y Diwydiant Gweithgynhyrchu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 16 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:16, 16 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Mae ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod allbwn diwydiannol y DU wedi lleihau am y trydydd mis yn olynol, gyda'r sector gweithgynhyrchu yn gostwng 0.6 y cant, a diffyg masnachu’r DU yn dyblu i fwy na £10.5 biliwn. Fel gwlad yma yng Nghymru â gorffennol diwydiannol a gweithgynhyrchu balch, mae'n drist bod cyfran y prentisiaethau yn y diwydiant gweithgynhyrchu wedi gostwng o 6 y cant yn 2006 i 2 y cant llwm yn 2014. Ffigurau StatsCymru yw’r rheini, rhag ofn bod y Prif Weinidog eisiau fy nghyhuddo unwaith eto o gamliwio’r ffeithiau.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod yn annerbyniol petruso am dros flwyddyn gyda chynllun economaidd a diwydiannol newydd ar gyfer y wlad hon? Pa obaith sydd yna am ddyfodol mewn diwydiant i Gymru ar lefel fyd-eang pan nad ydym yn darparu'r sgiliau er mwyn i’r genhedlaeth nesaf allu cyflawni?