1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mai 2017.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant gweithgynhyrchu? OAQ(5)0606(FM)
Rydym ni’n parhau i gymryd ystod eang o gamau i gefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod allbwn diwydiannol y DU wedi lleihau am y trydydd mis yn olynol, gyda'r sector gweithgynhyrchu yn gostwng 0.6 y cant, a diffyg masnachu’r DU yn dyblu i fwy na £10.5 biliwn. Fel gwlad yma yng Nghymru â gorffennol diwydiannol a gweithgynhyrchu balch, mae'n drist bod cyfran y prentisiaethau yn y diwydiant gweithgynhyrchu wedi gostwng o 6 y cant yn 2006 i 2 y cant llwm yn 2014. Ffigurau StatsCymru yw’r rheini, rhag ofn bod y Prif Weinidog eisiau fy nghyhuddo unwaith eto o gamliwio’r ffeithiau.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod yn annerbyniol petruso am dros flwyddyn gyda chynllun economaidd a diwydiannol newydd ar gyfer y wlad hon? Pa obaith sydd yna am ddyfodol mewn diwydiant i Gymru ar lefel fyd-eang pan nad ydym yn darparu'r sgiliau er mwyn i’r genhedlaeth nesaf allu cyflawni?
Wel, a gaf i ei atgoffa ei fod yn un o ymrwymiadau allweddol y Llywodraeth hon y byddwn yn ariannu 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rhywbeth yr ydym yn credu sy’n hynod bwysig? Mae'n iawn i nodi bod gweithgynhyrchu yn bwysicach i economi Cymru nag ydyw i’r DU yn ei chyfanrwydd. Mae tua 10.8 y cant o weithlu Cymru ym maes gweithgynhyrchu o’i gymharu â 7.6 y cant ar gyfer y DU. Nid wyf yn derbyn yr hyn y mae'n ei ddweud am betruso: daethom ag Aston Martin i Gymru; daethom â Qatar Airways i Gymru. Ar hyn o bryd, mae'r tîm sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch yn gweithio gydag 88 o gwmnïau sy'n dymuno lleoli neu ehangu yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, ymhell o betruso, rydym ni wedi bod yn hynod weithgar ac mae'r ffigurau buddsoddi yn siarad drostynt eu hunain.