Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Mai 2017.
Mae'r cynllun hwn yn ymdrin â phob agwedd ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes, wedi’i ddarparu gan y sectorau sylfaenol ac eilaidd, ac mae’n cynnwys gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol wedi’u darparu gan y GIG a darparwyr y trydydd sector. Mae’r gofal hwn hefyd yn cydnabod anghenion pobl sy'n mynd drwy brofedigaeth. Mae'n adeiladu ar lwyddiant y cynllun cyntaf. Mae wedi ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau strategol a deddfwriaethol diweddaraf ac mae wedi cryfhau adrannau plant a phobl ifanc ac ymchwil.
Rydym yn gwybod bod gofal ar ddiwedd oes wedi gwella'n fawr ers cyhoeddi'r cynllun cyntaf ar ddarparu gofal diwedd oes yn 2013. Mae ymgynghorwyr meddygaeth liniarol ar gael nawr ar alwad 24/7 ledled Cymru i roi cyngor a chymorth i weithwyr proffesiynol eraill, ac i ymweld â chleifion pan fo angen, sy’n gwella’r gwasanaeth a ddarperir gan arbenigwyr nyrsio clinigol ar benwythnosau. Ac mae cefnogaeth nawr ar gael i dimau nyrsio clinigol arbenigol i weithio saith diwrnod yr wythnos mewn lleoliadau acíwt a chymunedol. Mae hyn wedi darparu cefnogaeth werthfawr i staff rheng flaen ar benwythnosau, gan alluogi cleifion sy'n cyrraedd yr ysbyty ag anghenion gofal diwedd oes i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty pan fo hynny’n briodol a chaniatáu i gleifion sydd ag anghenion cymhleth aros gartref.
Mae arian hefyd wedi ei ddarparu i wella mynediad at ddarpariaeth hosbis yn y cartref, ac rydym wedi cyflwyno cofrestri lliniarol gofal sylfaenol fel bod gan bob meddygfa deulu gofrestr o'r holl gleifion ag anghenion gofal cefnogol neu liniarol. Mewn cydweithrediad â hosbis plant Tŷ Hafan, rydym wedi sefydlu gwasanaeth cynghori y tu allan i oriau 24 awr dros y ffôn ar gyfer gofal lliniarol pediatrig, sydd nawr ar gael ledled Cymru.
Mae marw, wrth gwrs, yn ddigwyddiad anochel. Er fy mod yn llwyr sylweddoli nad yw'n bwnc y mae llawer o bobl yn gyfforddus i siarad amdano, mae'n hanfodol bod pobl yn gadael i’w hanwyliaid wybod sut y maen nhw’n dymuno treulio eu dyddiau olaf pan ddaw'r amser. Mae cynllunio ar gyfer diwedd bywyd drwy gael sgyrsiau agored yn gallu arwain at farwolaeth well ac yn sicr yn gallu helpu'r broses alaru i’r rhai a adawyd ar ôl.
Yr wythnos diwethaf, es i i gynhadledd Byw Nawr ac roeddwn yn falch o lansio, yn swyddogol, y wefan newydd ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw. Heddiw, mae pobl yn dod o hyd i’r rhan fwyaf o'u gwybodaeth ar-lein a bydd yn amhrisiadwy i fod â’r adnodd hwnnw ar flaenau eu bysedd ar y rhyngrwyd. Rydym hefyd wedi darparu £150,000 i hyfforddi staff mewn sgiliau cyfathrebu uwch a gofal diwedd oes. Mae hyn wedi galluogi cydweithwyr i ddechrau a rheoli sgyrsiau am salwch difrifol â chleifion, teuluoedd a gofalwyr. Mae'r bwrdd gweithredu gofal diwedd oes, fodd bynnag, yn darparu arweinyddiaeth gref ac yn goruchwylio cyflawni'r cynllun. Fel sy'n wir am bob un o'n cyflyrau iechyd difrifol, mae'r bwrdd yn derbyn £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi eu blaenoriaethau a nodwyd.
Yn rhan o'r cytundeb cyllideb â Phlaid Cymru, dyrannodd Llywodraeth Cymru £1 filiwn ychwanegol ar gyfer eleni, i wella darpariaeth gofal diwedd oes ymhellach. Mae'r bwrdd wedi nodi dros dro y defnyddir y cyllid hwn i geisio sefydlu dull Cymunedau Tosturiol ar gyfer gofal diwedd oes, ar gyfer telefeddygaeth, i gyflwyno mwy o’r hyfforddiant am sgyrsiau am salwch difrifol i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu cofnod Cymru gyfan ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw, ac i fwrw ymlaen â blaenoriaethau ymchwil a chefnogi clystyrau meddygon teulu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu tua £6.4 miliwn o gyllid i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol a ddarperir gan hosbisau a byrddau iechyd ledled Cymru. Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn adlewyrchiad o ba mor bwysig yw gofal diwedd oes i Lywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol bod unigolion yn cael y gofal gorau posibl yn y lleoliad o'u dewis yn eu dyddiau olaf.
Mae adborth uniongyrchol gan gleifion a'u teuluoedd am wasanaethau gofal lliniarol arbenigol yng Nghymru wedi dangos, dros y flwyddyn ddiwethaf, bod y gwasanaethau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl yn eu dyddiau olaf. Yn ystod 2015-16, roedd 93 y cant o'r ymatebion i'r arfarniad cleifion iWantGreatCare o'u profiad o ofal lliniarol arbenigol yn gadarnhaol. Roedd y sgôr cyfartalog yng Nghymru yn 9.5 allan o 10 ar draws pob maes. Ni fyddai hyn yn bosibl, wrth gwrs, heb ymroddiad a phroffesiynoldeb ein gweithlu. Felly, hoffwn oedi nawr i gydnabod gwaith ein clinigwyr, ein nyrsys a’n haelodau staff eraill sy'n darparu gofal i bobl ar ddiwedd eu hoes. Go brin bod llawer o swyddi sy’n fwy heriol yn emosiynol, ond eto mor angenrheidiol. Rwy’n siŵr y gwnaiff Aelodau ar draws y Siambr ymuno â mi i gydnabod ein staff a diolch iddynt am eu gwaith.
Ond, mae marw yn fater cymdeithasol. Mae pa mor dda yr ydym yn gofalu am bobl sy'n marw yn adlewyrchu ar ba mor ofalgar yr ydym fel cymdeithas. Mae datblygiadau mewn meddygaeth a thriniaeth fodern wedi arwain at boblogaeth sy'n tyfu, ac sy’n byw'n hwy â chlefydau na ellir eu gwella. Mae'n hanfodol darparu gofal diwedd oes a gofal lliniarol da ledled Cymru. Datblygwyd y cynllun cyflawni gofal lliniarol a gofal diwedd oes diweddaraf drwy weithio'n effeithiol mewn partneriaeth. Mae’r cydweithrediad parhaus hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, y bwrdd gweithredu, y gwasanaeth iechyd gwladol, cyrff proffesiynol a'r trydydd sector yn allweddol i gyflawni canlyniadau cyflymach sy’n cael mwy o effaith. Dylai pawb ohonom gydnabod bod yr heriau sydd o'n blaenau yn niferus ac yn sylweddol, ond gallwn edrych ymlaen at y dyfodol gydag ymdeimlad ein bod yn rhannu cyfeiriad a hyder.