Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 16 Mai 2017.
A gaf i ddiolch am y datganiad a diolch, hefyd, wrth gwrs, am yr holl waith mae staff a gwirfoddolwyr yn y gwasanaeth iechyd a’r trydydd sector yn ei wneud yn darparu gofal diwedd bywyd a gofal lliniarol ar draws Cymru? Nid ydw i’n meddwl bod yna lawer yn newydd, mewn difri, yn y datganiad heddiw, fel y cyfryw—er ei bod hi wastad yn ddefnyddiol cael diweddariad—felly, o bosib, a gaf i gyfeirio at beth ddylai ddigwydd yn llygaid un o’r grwpiau sy’n ymwneud â’r maes yma, sef Age Cymru? Mi restraf i ychydig o’r gofynion sydd ganddyn nhw.
Maen nhw am i ofal lliniarol a gofal diwedd bywyd fod yn rhan cwbl ganolog o gynllunio gofal ar gyfer y rheini sydd â chyflyrau cronig a hirdymor. Maen nhw eisiau gwell cydlynu rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, i roi cyfle cyfartal i bawb yn ein poblogaeth oedrannus ni i gael mynediad at ofal hosbis. Maen nhw eisiau i ofal diwedd bywyd sy’n cael ei gomisiynu gan fyrddau iechyd lleol gynnwys gofal cynhwysfawr ar gyfer pobl mewn cartrefi gofal. Maen nhw eisiau i bob sefydliad a gweithiwr proffesiynol gael yr hyfforddiant angenrheidiol a sicrhau dilyniant yn yr hyfforddiant yna drwy eu bywydau proffesiynol nhw. Maen nhw eisiau i orchmynion ‘Do not attempt resuscitation’ neu orchmynion i roi’r gorau i fwydo neu i roi diod beidio â chael eu cymryd heb ymgynghoriad llawn efo’r teulu neu ofalwyr eraill. Yn olaf, maen nhw eisiau sicrwydd o fonitro gofalus iawn o weithredu a chanlyniadau’r cynllun diwedd bywyd i sicrhau ei fod o yn delifro gwell gofal. Felly, er ein bod ni mewn sefyllfa lle mae yna gamau wedi’u cael eu rhoi mewn lle gan y Llywodraeth, mae yna, yn amlwg, fwy o ofynion gan y rheini sy’n ymwneud â’r maes yma.
Felly, tri chwestiwn yn deillio o hynny. Un: a ydych chi’n anghytuno efo unrhyw un o’r argymhellion yna? Os nad ydych chi, pa bryd y gallwn ni gael sicrwydd y bydd y rheini wedi cael eu gweithredu? Yn ail, mae’r adroddiad blynyddol yn sôn am welliannau mewn gofal lliniarol i blant—mae hynny, wrth reswm, i’w groesawu—ond mae yna lawer gormod o blant sy’n methu â chael treulio cyfnod olaf eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain. A ydych chi'n cytuno bod yna waith i’w wneud yma? A ydych chi’n cydnabod bod angen cryfhau gwasanaethau hefyd i gefnogi’r brodyr a’r chwiorydd sydd wedi mynd drwy eu colled nhw? Yn olaf, mae gwasanaethau grwpiau ethnig lleiafrifol yn cael eu hadnabod yn benodol gan Marie Curie fel rhai sydd angen eu gwella. Beth mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud am hyn yn benodol?