Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 16 Mai 2017.
Rwy’n datgan budd yn y pwnc hwn gan fy mod yn is-lywydd Gofal Hosbis George Thomas, sydd wedi’i leoli ar dir ysbyty’r Eglwys Newydd yng Ngogledd Caerdydd. Mae’n darparu gofal lliniarol arbenigol ar gyfer Caerdydd i alluogi pobl i fyw yn eu cartrefi a chadw eu hannibyniaeth am gyn hired ag y bo modd. Rwy'n credu ei fod yn enghraifft o waith partneriaeth da rhwng y sector gwirfoddol a'r sector statudol, rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol. Ac, hefyd, rwy’n credu yr hoffem i gyd dalu teyrnged i fuddsoddiad hir-sefydlog y sector gwirfoddol yn y mudiad hosbisau y tyfodd hwn ohono.
Rwy'n credu bod y cynllun hwn yn gynllun pwysig iawn, y cynllun cyflawni gofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac yn gynllun hollbwysig, a hoffwn dalu teyrnged i'r Athro Ilora, y Farwnes Finlay, sydd wedi bod mor allweddol i’r cynllun hwn ac sy'n ymddiswyddo fel arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes ym mis Gorffennaf. Rwyf wedi gweithio am nifer o flynyddoedd gydag Ilora, ac rwy'n meddwl ei bod wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r maes gwaith hwn.
Un o'r materion yr wyf yn bryderus iawn amdanynt yw rhywbeth y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato yn ei gyflwyniad, rwy’n credu, sef y mater gwirioneddol hollbwysig bod pobl, pan fyddant yn sâl iawn, yn cael eu symud i mewn i ysbyty i gael triniaeth pan fyddai, yn y bôn, yn well iddynt aros gartref pe gellid rhoi’r gwasanaethau cymorth yno iddynt i aros yn eu cartrefi. Ac mae hyn yn digwydd i lawer o bobl ddifrifol wael sydd wedi bod yn cael y cymorth hwn, ond, pan aiff y sefyllfa’n llawer gwaeth, maent wedyn yn mynd i mewn i ysbyty. Felly, mae'n fater o sut yr ydym yn llwyddo i gadw pobl yn y sefyllfa honno yn eu cartrefi. Ac rwyf wedi cael sawl enghraifft o hynny yn fy etholaeth i, lle, mewn gwirionedd, ar benwythnos, bu’n rhaid i rywun a oedd yn agos iawn at ddiwedd ei oes fynd i adran damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty oherwydd bod y meddyg ar alwad yn poeni cymaint am ei gyflwr, ac roeddwn i’n meddwl, gydag ychydig mwy o gydweithredu a chydweithio, y gallai fod wedi aros gartref gydag ychydig mwy o gymorth. Felly, rwy’n meddwl bod hwnnw’n un o'r meysydd allweddol, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy am hynny.
Rwy'n croesawu'r pwynt a wnaethpwyd bod angen adolygiad o gapasiti gwasanaethau profedigaeth presennol, oherwydd rwy’n credu bod y rhain yn rhan hanfodol o gynllunio ar gyfer gofal diwedd oes. Ac, yn Gofal Hosbis George Thomas, mae'r ymgynghorydd wedi disgrifio i mi sut y maen nhw’n darparu cwnsela cyn-profedigaeth i blant sydd â rhiant, neu nain neu daid, efallai, neu efallai frawd neu chwaer, sy'n marw, ac mae hi'n dweud bod hyn yn bendant yn gymorth aruthrol os ydych yn ei wneud cyn i'r perthynas farw a bod hynny'n tueddu i olygu bod angen llai o sesiynau dilynol ar ôl hynny. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw farn am hynny ac a oedd hyn yn rhywbeth a oedd yn digwydd i unrhyw raddau ledled Cymru.
Ac yna, wrth gwrs, mae holl fater gwasanaethau plant ar gyfer y grŵp bach, ond pwysig iawn, o blant sydd ag angen gofal lliniarol, ac rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol o waith y corff Together for Short Lives, sydd wedi cyflwyno nifer o gynigion.
Ac yna y pwynt olaf yr oeddwn eisiau ei wneud oedd o ran cynllunio ymlaen llaw. Mae'n rhaid inni ystyried nawr nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ddementia a fydd angen gofal diwedd oes, ac rydym yn cael dadl ar hynny yn nes ymlaen yn y prynhawn, am ddementia. Ond, yn Gofal Hosbis George Thomas, mae 75 y cant o'u cleifion â chanser, a, hyd at nawr, y grŵp nesaf yr oeddent yn gweithio gyda nhw oedd pobl â chlefyd y galon. Ond nawr yr ail grŵp mwyaf yw pobl sydd â dementia, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y mae wir raid inni ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer gofal lliniarol, os oes gan bobl ddementia. Ac rwy’n nodi—rwy’n credu mai Macmillan sydd wedi dweud bod angen inni wneud llawer o rag-gynllunio gyda phobl hŷn, ac rwy'n meddwl, yn syml, bod yn rhaid inni ystyried y ffaith bod nifer fawr o bobl â dementia.
Ac yna, hoffwn ddweud fy mod i’n cytuno â'r holl faterion o gwmpas, wyddoch chi, ceisio dysgu o bosibl gan y mudiad Cymunedau Tosturiol. Mae angen y sgwrs fawr arnom, ac mae angen inni symud ymlaen i wneud marwolaeth yn llawer mwy o ran o fywyd.