Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 16 Mai 2017.
Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch bod rhywbeth tebyg iawn i bolisïau’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ffeindio ei ffordd i mewn i’ch polisi chi, ac felly a allaf ofyn: a ydych chi’n cytuno bod gan arweinwyr addysg rôl hanfodol wrth wella lle’r Gymraeg yn niwylliant ein hysgolion a’n colegau? Nid wyf yn siarad am y cwricwlwm nawr, ond y diwylliant. A sut y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngweledigaeth, gwerthoedd a swyddogaethau yr academi?